Bethan Wyn Jones

Bethan Wyn Jones
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethllenor Edit this on Wikidata

Awdur Cymreig yw Bethan Wyn Jones.

Magwyd Bethan Wyn Jones yn y Talwrn, Sir Fôn, a derbyniodd ei haddysg gynradd yn ysgol y pentref. Cafodd ei haddysg uwchradd yn Ysgol Gyfun Llangefni a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd mewn Sŵoleg. Mae'n cyfrannu sgyrsiau am wahanol agweddau ar fyd natur yn wythnosol i Galwad Cynnar ar Radio Cymru, yn ogystal ag erthyglau i'r Herald Cymraeg a chylchgronau eraill. Cyhoeddodd nifer o lyfrau poblogaidd gan gynnwys Bwrw Blwyddyn, Blodau Gwyllt, Natur y Flwyddyn, cyfres Doctor Dail a Llyfr Natur Iolo ar y cyd ag Iolo Williams.[1]

Llyfryddiaeth

Cyfeiriadau


Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Bethan Wyn Jones ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.

Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.