Banc masnachol bychan yng Ngwledydd Prydain yw Banc Julian Hodge. Mae'n cael ei enwi ar ôl Syr Julian Hodge. Cafodd y banc ei ffurfio yn 1987, ac mae'n cael ei redeg o'i bencadlys yng Nghaerdydd, yr unig fanc annibynnol sydd a'i bencadlys yng Nghymru. Roedd cyfanswm yr asedau a ddaliwyd gan y banc ar ddiwedd y flwyddyn yn diweddu 31 Hydref, 2004 yn £570 miliwn.
Mae Banc Julian Hodge yn cynnig amrywiaeth eang o arbedion a benthyciadau ar gyfer unigolion preifat, a chleientiaid masnachol. Ffurfiodd Syr Julian Hodge y banc ar ôl ffurfio'r Banc Ymddiriedolaeth Siartredig a Banc Cymru (sydd bellach yn rhan o HBOS). Mae'r banc yn cynnwys cwmnïau cyllid amrywiol eraill a reolir gan Hodge.
Mae gan y banc un is-gwmni mawr, Hodge Equity Release, sy'n gweithredu yn y farchnad morgeisi. Mae wedi gwerthu ei is-gwmni arall, Cyllid Carlyle, i WesBank (FirstRand) SA ers 2007.