Mae Banc Cymru (Saesneg: Bank of Wales) yn adran fasnachol o Fanc yr Alban plc sy'n darparu cynnyrch cynilo drwy is-gwmnïau yswiriant bywyd.
Hanes
Sefydlwyd Banc Cymru gan Syr Julian Hodge ar 30 Hydref 1972.[1] Roedd y cwmni yn darparu gwasanaethau bancio masnachol i gwmnïau bach a canolig yng Nghymru.[2]
O'r dechrau roedd Sir Julian Hodge am enwi'r cwmni yn Banc Cymru ond yn dilyn gwrthwynebiad gan Gofrestr y Cwmnïau a Banc Lloegr oedd yn honni y gallai'r enw awgrymu banc canolog, penderfynwyd cyfaddawdu gyda'r enw Banc Masnachol Cymru (Saesneg: Commercial Bank of Wales).[2] Yn y diwedd fe newidiwyd yr enw yn swyddogol i Banc Cymru (Bank of Wales) yn Rhagfyr 1986. Erbyn y flwyddyn 2000 roedd ganddo saith swyddfa ranbarthol ac asedau o dros £460 miliwn.[2]
Cychwynnodd y banc mewn adeilad ar Heol Santes Fair, ond yn 1989 symudodd adeilad newydd sbon ar Ffordd y Brenin, gyferbyn a Chastell Caerdydd, a ddefnyddiwyd nes ymlaen gan Awdurdod Datblygu Cymru.
Fe gymrwyd y banc drosodd gan Banc yr Alban yn 1986 ac fe beidiodd masnachu o dan y brand Cymreig yn 2002.[2] Yn 2009, fe wnaeth cadeirydd y Sefydliad Materion Cymreig, Geraint Talfan Davies, ddatgan fod yr argyfwng bancio yn dangos fod angen adfywio'r brand.[3]
Yn Rhagfyr 2014 cyhoeddodd Grŵp Bancio Lloyds ei fod am ail-sefydlu Banc Cymru fel darparwr cynilion.[4]
↑ 2.02.12.22.3Davies, John; Jenkins, Nigel (2008). The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 49. ISBN978-0-7083-1953-6.