Gêm gardiau a chwareir mewn casino yw bacarát[1] (Ffrangeg: baccarat). Mae'n gêm ddwyochrog, rhwng y bancer, sydd hefyd yn y rhannwr, a'r chwaraewr arall, er gall hyd at 12 o bobl chwarae yn erbyn y banc (y casino) ar yr un pryd. Mae'r gêm hefyd yn defnyddio crwpier.[2]
Amcan y gêm yw i ddal dyrnaid o werth uwch na'r bancer.[2]
Prif amrywiadau'r gêm yw Chemin de Fer, sydd â'r chwaraewyr yn cymryd eu tro fel y bancer,[3] a Punto Banco, sy'n gêm siawns lwyr.[4]
Dyfeiswyd y gêm syml hon yn Ffrainc yn y 19g, a'i phwrpas oedd i symud symiau mawr o arian mewn casinos. Daeth yn gysylltiedig â'r cyfoethogion yn gamblo mewn casinos enwog Deauville a Monte Carlo.[2] Mae gan facarát le amlwg yn y nofel Casino Royale gan Ian Fleming.