Geirfa gemau cardiau

Dyma eirfa o derminoleg gemau cardiau.


A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I J L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y

B

banc

Nifer benodol o tsips neu docynnau a osodir gan y bancer i chwaraewyr eraill fetio yn ei herbyn.[1]

bancer

Y person sy'n gofalu am y banc neu sy'n cynrychioli'r banc. Mewn casino, y person sy'n cynrychioli'r casino.[1]

blyffio (berf), blỳff (enw)[2]

Ceisio twyllo chwaraewyr eraill trwy eich modd o fetio, i wneud i eraill feddwl bod gennych ddyrnaid sy'n gryfach neu'n wanach na'r hyn sydd wir gennych.[3]

C

cynnig

Cynnig gan chwaraewr i wneud nifer benodol o driciau neu bwyntiau wrth chwarae.[1]

D

dyrnaid[4]

Y set o gardiau sydd gan chwaraewr mewn un rhaniad.[5]

G

gweddw, cerdyn[6]

Dyrnaid ychwanegol.[7]

O

ocsiwn

Y cyfnod o gynnig.[1]

Rh

rhaniad, deliad[8]

Y cyfnod chwarae o un rhaniad i'r un nesaf, gan gynnwys cynigion, chwarae, sgorio, ayyb.[9]

rhannu, delio[8]

Rhoi cardiau i bob chwaraewr.[9]

rhannwr, deliwr[8]

Y person sy'n rhannu'r cardiau. Weithiau mae chwaraewyr yn cymryd eu tro wrth rannu.[9]

T

tric[10]

  1. Rownd lle mae pob chwaraewr yn cyfrannu un cerdyn yr un.[7]
  2. Y cardiau a chwareir mewn rownd dric, a gaiff eu cymryd gan enillydd y rownd.[7]

tsipsen (lluosog: tsips), tshipsen (tships)[11]

Tocyn, gan amlaf o bren neu blastig, a ddefnyddir i gynrychioli arian.[12]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Arnold, t. 385.
  2. Griffiths a Jones, t. 147 [bluff].
  3. Arnold, t. 386.
  4. Griffiths a Jones, t. 649 [hand].
  5. Arnold, t. 390.
  6. Griffiths a Jones, t. 1673 [widow].
  7. 7.0 7.1 7.2 Arnold, t. 396.
  8. 8.0 8.1 8.2 Griffiths a Jones, t. 355 [deal, dealer].
  9. 9.0 9.1 9.2 Arnold, t. 388.
  10. Griffiths a Jones, t. 1524 [trick].
  11. Griffiths a Jones, t. 233 [chip].
  12. Arnold, t. 387.

Ffynonellau

  • Arnold, Peter. Chambers Card Games (Caeredin, Chambers, 2007).
  • Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]).