Cân i blant am deulu o forgwn yw "Baby Shark". Mae'r gân wedi'i hanelu at blant; daeth hefyd yn boblogaidd ymhlith pobl ifanc ac oedolion trwy gael ei ledaenu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae "Baby Shark" yn cael ei chrybwyll mewn llyfr a gyhoeddwyd ar gyfer gwersylloedd bandiau Americanaidd yn 2007, a chredir ei bod yn cael ei chanu i blant meithrin yn ystod y 20g. Hefyd yn 2007, cyhoeddwyd fideo o'r enw "Kleiner Hai"[1] gan alemuel, a oedd yn seiliedig ar y gân. Ymddangosodd fersiynau pellach yn 2011 gan Johnny Only a The Learning Station ar YouTube. Roedd y gân hefyd ar gryno-ddisg '#1 Best Kids song' a ryddhawyd gan The Learning Station yn 2011.
Cafwyd nifer o amrywiadau, ond yr un a gafodd fwyaf o ddylanwad oedd fersiwn a gynhyrchwyd gan Pinkfong, brand addysgol o dan y cwmni SmartStudy o Dde Corea,[2][3] a hynny o dan y teitl "Baby Shark". Cafodd honno ei rhyddhau ar 25 Tachwedd 2015, ac roedd wedi'i gweld dros 130 miliwn o weithiau erbyn Medi 2018.[4] Daeth y fersiwn hon o'r gân yn feirol yn Indonesia yn 2017, a lledodd i wledydd Asiaidd eraill yn ystod y flwyddyn, pac yn arbennig yn Ne-ddwyrain Asia. Roedd yr ap i ffonau symudol ymhlith y 10 a lawrlwythwyd fwyaf yn y categori aps teuluol yn Ne Corea, Bangladesh, Singapôr, Hong Cong ac Indonesia yn 2017.[5] Erbyn Medi 2018, roedd y fersiwn dawns o'r gân "Baby Shark" a oedd wedi'i lanlwytho ar 17 Mehefin 2016,[6] wedi'i gweld dros 1.6 biliwn o weithiau o amgylch y byd.[7] O ganlyniad i'w boblogrwydd, aeth y ddawns (ar ffurf y Baby Shark Challenge) yn feirol o amgylch y byd, gyda rhai yn cyfeirio ati fel y peth mwyaf ers "Gangnam Style". Mae grwpiau K-pop fel Girls' Generation, Red Velvet a Black Pink wedi cyfrannu at ledu'r gân feirol ymhellach.[8][9] Dechreuodd y gân droi yn feirol yn y Gorllewin yn Awst 2018.[10]