Cyfansoddwr o Awstria oedd Arnold Schoenberg neu Schönberg[1] (13 Medi1874 – 13 Gorffennaf1951). Trwy ei gyfansoddiadau ac fel athro, cafodd ddylanwad aruthrol ar gerddoriaeth yng nghanol yr 20g. Fel cyfansoddwr Iddewig, fe'i herlidiwyd gan y Blaid Natsïaidd, a labelodd ei weithiau fel Entartete Musik ("cerddoriaeth ddirywiedig") a'u gwahardd rhag cael eu cyhoeddi. Ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn 1933, a daeth yn ddinesydd o'r wlad honno yn 1941.
Roedd ei gerddoriaeth gynnar yn ymestyn arddulliau cerddorol y cyfansoddwyr RhamantaiddBrahms a Wagner – arddulliau a ystyriwyd yn anghydnaws yn flaenorol. Roedd yn arbennig o gysylltiedig â'r mudiad Mynegiadaeth ym marddoniaeth a chelf yr Almaen. Datblygodd arddull a oedd yn eithafol yn ei ddefnydd o gromatyddiaeth, mor eithafol fel y daeth i gael ei labelu yn ddigywair; hynny yw, yn perthyn i ddim cywair adnabyddadwy. Yn y 1910au datblygodd y dechneg deuddeg-nodyn, dull o systemateiddio'r defnydd o bob un o'r deuddeg nodyn yn y raddfa gromatig. O'r 1920au ymlaen cafodd y dechneg ddylanwad mawr ar sawl cenhedlaeth o gyfansoddwyr yn Ewrop a Gogledd America.
Ganwyd Arnold Schoenberg i deulu Iddewig yn Fienna, Awstria, yn 1874. Roedd ei dad Samuel yn siopwr esgidiau a ddaeth o Hwngari; roedd ei fam Pauline yn athrawes piano a ddaeth o Brag. Roedd Arnold yn hunanddysgedig i raddau helaeth, er iddo gael ychydig o wersi gan y cyfansoddwr Alexander Zemlinsky, a fyddai'n dod yn frawd-yng-nghyfraith iddo yn ddiweddarach.
Yn 1898 cafodd Schoenberg ei dröedigaeth at Gristnogaeth yn yr Eglwys Lutheraidd. Dychwelodd at Iddewiaeth yn 1933, oherwydd sylweddolodd fod ei dreftadaeth hiliol a chrefyddol yn anochel, ac i gymryd safbwynt diamwys yn erbyn Natsïaeth.
Priododd â'i wraig gyntaf, Mathilde (1877–1923), chwaer Zemlinsky, yn 1901. Cawsant ddau o blant, Gertrud (1902–1947) a Georg (1906–1974). Cafodd Mathilde garwriaeth â'r arlunydd Richard Gerstl yn 1908; arweiniodd hyn at argyfwng ym mywyd personol Arnold a chyflymodd ddatblygiad chwyldroadol ei arddull gerddorol.
Ym 1915 cafodd ei ddrafftio i'r fyddin a'i hyfforddi fel swyddog wrth gefn, ac yn 1917 fe'i galwyd i wasanaeth gweithredol fel aelod o fand milwrol.
Bu farw ei wraig Mathilde yn 1923. Y flwyddyn nesaf priododd Schoenberg â Gertrud Kolisch (1898–1967), chwaer ei ddisgybl, y feiolinydd Rudolf Kolisch. Bu iddynt dri o blant: Nuria Dorothea (g. 1932), Ronald Rudolf (g. 1937), a Lawrence Adam (g. 1941).