Tarian sydd yn portreadu bywyd gwyllt enwocaf y wlad, crwban mawr Aldabra a'r balmwydden goco, a gynhelir gan ddau hwylbysgodyn yw arfbais Seychelles. Golygfa o Gefnfor India sydd ar y darian: y crwban a'r balmwydden ar yr arfordir ac yn y cefndir ynys a sgwner ar y môr. Ar ben y darian mae helmed gribog ac arni donnau glas a gwyn ac aderyn trofannol cynffonwyn yn hedfan uwchben. O dan y darian a'r cynheiliaid mae rhuban sydd yn dwyn yr arwyddair cenedlaethol: Finis Coronat Opus.[1]
Cyfeiriadau
↑Siobhán Ryan et al. Complete Flags of the World (Llundain: Dorling Kindersley, 2002), t. 107.