Tarian ddu gyda siâp-Y donnog, wen a gynhelir gan ddau geffyl gwyn yw arfbais Nigeria. Cynrychiola'r darian gydlifiad Afon Niger ac Afon Benue. Ar ben y darian mae torch mewn lliwiau'r faner genedlaethol, gwyn a gwyrdd, ac eryr coch yn sefyll arni yn symbol o gryfder. Saif y ceffylau, sydd i gynrychioli urddas, ar fownt gwair a Coctus spectabilis, y blodyn cenedlaethol. Ar draws y mownt mae rhuban sydd yn dwyn yr arwyddair cenedlaethol: Unity and Faith, Peace and Progress.[1]
Cyfeiriadau
↑Siobhán Ryan et al. Complete Flags of the World (Llundain: Dorling Kindersley, 2002), t. 90.