Ardal an-fetropolitan yn Suffolk, Dwyrain Lloegr, yw Ardal Babergh (Saesneg: Babergh District).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 594 km², gyda 91,401 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'n ffinio Ardal Gorllewin Suffolk, Ardal Canol Suffolk a Bwrdeistref Ipswich i'r gogledd, ac Essex i'r de.
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Mae aneddiadau yn ardal yr awdurdod yn cynnwys trefi Hadleigh a Sudbury.
Ers 2011 mae Ardal Babergh ac Ardal Canol Suffolk ac wedi bod yn cydweithredu i ddarparu gwasanaethau, ac wedi bod yn archwilio'r posibiliadau o uno fel un awdurdod.