Dinas a phorthladd hanesyddol yn ne-orllewin Twrci ar arfordir Môr y Canoldir yw Antalya, a phrifddinas Talaith Antalya. Daeth yn ddinas bwysig yng nghyfnod yr ymerodraeth Byzantine. Wedi datblygiadau economaidd yn ystod yr 1970au, mae Antalya heddiw wedi tyfu i fod yn ddinas rhyngwladol ac yn un o ganolfannau twristiaeth pwysicaf Twrci.