Anrhydedd milwrol a wobrwywyd i uned filwrol er cof am frwydr neu ymgyrch filwrol yw anrhydedd brwydr a arddangosir ar arwyddnodau neu wisg yr uned. Gan amlaf gwobrwywyd mewn achos buddugoliaeth, ond nid pob amser.[1] Datblygodd anrhydeddau brwydrau yn y Fyddin Brydeinig ac ymledodd i rai o luoedd arfog eraill y Gymanwlad.
Yn yr 17g, gwobrwywyd enw newydd ar gatrawd am wasanaeth rhagorol ar faes y gad, ac yn y ganrif olynol rhoddwyd torch lawryf i uned gyfan.[1] Rhoddwyd medalau personol i swyddogion, ac weithiau milwyr o rengoedd is, os cymerant ran mewn brwydr lwyddiannus yn y 18g. Roedd y 15fed Ddragwniaid Ysgeifn mor llwyddiannus ym Mrwydr Emsdorf (1760) caniatawyd iddynt ddangos yr enw "Emsdorf" ar eu penwisg.[2] Ym 1768 cymerwyd yr enw oddi ar eu capiau a'u haddurnwyd ar eu gidonau, a hwn oedd yr anrhydedd brwydr gyntaf ar ffurf enw brwydr neu ymgyrch. Ym 1784 rhoddwyd "Gibraltar" ar faneri catrodol pedair o'r catrodau o droedfilwyr a amddiffynnodd y Graig yn ystod Gwarchae Gibraltar (1779–83). Daeth rhagor o anrhydeddau o'r ymgyrchoedd yn erbyn Napoleon, gan gynnwys y Sffincs a'r Aifft yn sgil yr ymgyrch i'r Aifft (1801), yr anrhydedd cyntaf a roddwyd ar gyfer ymgyrch ac nid brwydr unigol. Rhoddwyd y Sffincs i 33 o gatrodau ym 1802.[1]
Rhoddwyd yr anrhydedd "Peninsula" i 87 o gatrodau am wasanaeth yn Rhyfel Iberia, a "Waterloo" i 38 o gatrodau a ymladdodd ym Mrwydr Waterloo (1815). O 1817 ymlaen rhoddwyd anrhydeddau ar wahân ar gyfer 23 o frwydrau Rhyfel Iberia, a chydnabuwyd rhyfeloedd trefedigaethol y 19eg ganrif ar raddfa ysbeidiol. Ym 1882 cafwyd adolygiad o'r anrhydeddau gan arwain at gydnabyddiaeth o fuddugoliaethau Dug Marlborough a James Wolfe, a chydnabuwyd ymgyrchoedd yr 17g a rhagor o frwydrau'r 18g gan adolygiad 1909. O hynny ymlaen, gwobrwyir anrhydeddau brwydrau yn fwy rheolaidd. Rhoddwyd 163 o anrhydeddau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac o ganlyniad roedd y nifer o anrhydeddau gan gatrodau mor uchel gorchmynnwyd taw dim ond mwyafrif o 10 y gellir eu harddangos ar faneri, llumanau a gidonau. Yn yr Ail Ryfel Byd rhoddwyd y rheol hon ar waith unwaith eto, a bydd catrodau'n dewis eu 10 brwydr bwysicaf y rhyfel, gan amlaf y rhai a welodd y golled fwyaf o ddynion. Ar gyfartaledd roedd rhestr lawn o anrhydeddau brwydrau catrawd ddwywaith hynny a arddangoswyd.[1]
O ganlyniad i'r cyfuniadau niferus yn y Fyddin Brydeinig ers ail hanner y 19eg ganrif, cyfunwyd yr anrhydeddau brwydrau ar gyfer catrodau newydd.[1] Caniateir i ddangos anrhydeddau brwydrau ar addurniadau, gan gynnwys platiau gwregysau swyddogion ac yn y 19eg ganrif siacos, yn ogystal â'r faner gatrodol a drymiau. Ymddangosir weithiau ar fathodynnau cap a botymau.[2]
Cyfeiriadau
↑ 1.01.11.21.31.4Griffin, P. D. Encyclopedia of Modern British Army Regiments (Thrupp, Sutton, 2006), t. 187.
↑ 2.02.1Carman, W. Y. A Dictionary of Military Uniform (Llundain, B.T. Batsford, 1977), t. 24.