Ieithydd, geiriadurwraig ac academydd yw'r Athro Ann Parry Owen sy'n arbenigo yn iaith a barddoniaeth yr Oesoedd Canol. Ganwyd hi ym Mangor ac mae'n byw yng Ngheredigion.
Mae Parry Owen o deulu diwylliedig, gyda'i thaid, Huw Parry Owen (neu "Huw Foelgrachen") yn fardd gwlad o ardal Uwchaled; sgwennwyd bywgraffiad ohono gan ei fab, Ellis Parry Owen, sef Huw Foelgrachen, Gwasg Gee (1978).[1] Roedd taid Huw yntau'n fardd, a chyhoeddodd bamffled Tecel, gyda'r is-deitl yn nodi: ychydig o ganiadau gan hen ŵr godrau'r mynydd, sef Gabriel Parry. Llanrwst. Argraffwyd gan J. Jones 1854. Sonnir am Gabriel Parry hefyd yn y gyfrol Cwm Eithin fel 'bardd a rhigymwr, gyda natur llenydda ynddo', a disgrifir sut y cododd dyddyn unnos iddo ef a'i wraig Mari yn ardal Uwch Aled ar ôl dychwelyd o Lerpwl.[2]
Gyrfa
Mae hi'n aelod o staff y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ers agor y Ganolfan ar 1 Hydref 1985 lle gweithiodd ar brosiect 'Beirdd y Tywysogion' rhwng 1985 a 1993, gan gydweithio â Dr Nerys Ann Jones ar farddoniaeth Cynddelw Brydydd Mawr o’r 12g, fel Cymrawd Ymchwil. Yn 1993 cafodd ei phenodi'n arweinydd prosiect ymchwil ar 'Feirdd yr Uchelwyr', prosiect a gynhyrchodd 44 cyfrol o farddoniaeth, dros ugain mlynedd, gan gydweithio gydag adrannau Cymraeg y prifysgolion. Mae'r gyfres ar gael ar lein yn agored ar Borth Adnoddau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.[3]
Yn 2007 arweiniodd brosiect gwerth £900K gan yr AHRC, sef Prosiect Guto'r Glyn, lle gwelwyd tîm o ymchwilwyr wrthi am gyfnod o bum mlynedd yn creu golygiad newydd a digidol o waith y bardd Guto'r Glyn o'r 15g.[4] Rhwng 2015 a 2017 bu Parry Owen yn Gyd-Archwilydd prosiect 'Cwlt y Seintiau yng Nghymru', gan olygu o'r newydd dair awdl fawr o’r 12g i’r seintiau: Dewi, Cadfan a Thysilio. Rhwng 2018 a 2021, bu'n Gyd-Archwilydd y prosiect ‘Tirweddau Cysegredig Mynachlogydd yr Oesoedd Canol’. Bellach mae hi'n Gyd-Archwilydd ar brosiect 'Barddoniaeth Myrddin' (ar y cyd rhwng y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ac Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd).
Mae hi'n Olygydd Hŷn gyda Geiriadur Prifysgol Cymru ers 2017. Hi hefyd yw prif olygydd Studia Celtica.[5]
Cyhoeddodd gasgliad John Jones, Gellilyfdy, o eiriau'r cartref, crefftau traddodiadol, byd amaeth a byd natur yn ei chyfrol Geirfâu'r Fflyd, 1632-33.[6]
Cyfeiriadau
Dolennau allanol