Ann Davies |
---|
|
Ganwyd | Ann Lorraine Davies 2 Hydref 1914 Caerdydd |
---|
Bu farw | 9 Ionawr 1954 Castle Hedingham |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | cyfieithydd, actor, chwaraewr hoci maes |
---|
Partner | Jack Lindsay, Randall Swingler |
---|
Chwaraeon |
---|
Actores, cyfieithydd, ymgyrchydd gwleidyddol asgell chwith a chwaraewrwaig hoci ryngwladol oedd Ann Lorraine Davies o adnabwyd hefyd fel Ann Lindsay (2 Hydref 1914 – 9 Ionawr 1954). Ganwyd a magwyd hi yng Nghaerdydd.
Bywyd
Ganwyd Davies yng 125, Woodville Rd, Caerdydd ym 1914 i Sarah Ann a Morgan Davies, yn un o bump o blant. Roedd ei thâd yn feistr frethynnwr.[1] Aeth i'r ysgol yn lleol, cyn mynd ymlaen i Goleg y Brifysgol, Caerdydd ym 1932. Yno, roedd hi'n is-lywydd Undeb y Myfyrwyr a theithiodd America fel aelod o dîm Hoci Cymru yn 1936. Roedd ei gradd mewn Ffrangeg, a daeth yn glerc yn Harrods wrth ymddangos fel Robin Hood (y Prif Fachgen) yn fersiwn wleidyddol Unity Theatre o Babes in the Wood, a oedd yn gwneud hwyl ar ben polisi dyhuddo (appeasement) Neville Chamberlain ac a gafodd Davies mewn gwisg Rwsiaidd. Rhedodd y cynhyrchiad am saith mis a chredydodd Montagu Slater y ddrama am wneud newid gwleidyddol.[2]
Gwleidyddiaeth
Fe wirfoddolodd i helpu plant Gwlad y Basg a Chynghrair y Cenhedloedd. Roedd gan Davies gysylltiadau cryf â'r comiwnyddion hefyd, a disgrifiodd un person hi fel "pin-up" bron y blaid. Aeth i weithio i Randall Swingler, a oedd mewn partneriaeth â Jack Lindsay; cafodd berthynas â Swingler.
Ym 1940, bu’n ymwneud â threfnu Confensiwn y Bobl a gynigiwyd gan Blaid Gomiwnyddol Prydain Fawr, ar y pwyllgor celfyddydau ac adloniant. Cynhaliwyd y confensiwn ym Manceinion ym mis Chwefror 1941.[2]
Cafodd ei henwi’n ysgrifennydd Newport Communications, cwmni a ffurfiwyd gan Swingler er mwyn addasu a gwneud y gorau o'r papurau dognu oedd yn hanfodol ar gyfer prynu bwyd a nwyddau yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[3] Cododd Davies i arwain y cwmni. Ym mis Hydref 1942, hi hefyd oedd y fenyw gyntaf i fod yn llywydd Theatr Unity.[2]
Partner oes
Yn 1943 ymgartrefodd gyda Lindsay; cymerodd yr enw Ann Lindsay, ond ni briodon nhw erioed. Roedd gan ei phartner wraig yr oedd eisoes wedi'i gadael yn Awstralia ym 1926.[4] Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, aeth y ddau ar daith o amgylch Rwsia a gwledydd cyfagos gyda'i gilydd. Fe symudon nhw o Lundain i Castle Hedingham yn Essex ym 1951.[4]
Marwolaeth
Bu farw Davies yn eu cartref yn Castle Hedingham ar ôl cael llawdriniaeth bellach i gael gwared ar ei ofarïau, ar ôl cwblhau ei chyfieithiad o nofel Émile Zola, La Terre, a gyfieithwyr fel, The Earth.[5]
Dolenni
Cyfeiriadau