Aneurin Owen

Aneurin Owen
Ganwyd23 Gorffennaf 1792 Edit this on Wikidata
Bu farw17 Gorffennaf 1851 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethperson dysgedig Edit this on Wikidata
TadWilliam Owen Pughe Edit this on Wikidata

Roedd Aneurin Owen (23 Gorffennaf 1792 - 17 Gorffennaf 1851) yn hanesydd ac ysgolhaig Cymreig, sy'n fwyaf adnabyddus fel awdur argraffiad o Gyfreithiau Hywel Dda.

Ganed ef yn Llundain, yn fab i William Owen Pughe. Fe fu yn fyfyriwr yn Ysgol Friars, Bangor, ond addysgwyd ef gan ei dad yn bennaf. Priododd Jane Lloyd o Nantglyn yn 1820. Bu'n gomisiynydd cynorthwyol y degwm yng Nghymru a Lloegr, yna yn gomisiynydd cynorthwyol Deddf y Tlodion ac wedyn yn un o gomisiynwyr cau'r tiroedd comin.

Roedd John Humffreys Parry wedi dechrau paratoi argraffiad o Gyfraith Hywel, ond pan hwnnw farw heb orffen y gwaith cwblhawyd ef gan Owen, a'i cyhoeddodd yn 1841 fel Ancient Laws and Institutes of Wales. Ef oedd y cyntaf i wahaniaethu rhwng y tair fersiwn o'r cyfreithiau. Bu hefyd yn gweithio ar argraffiad o Brut y Tywysogion ond bu farw cyn gorffen y gwaith; cyhoeddwyd y fersiwn derfynol yn 1860 gan John Williams "ab Ithel" heb gydnabyddiaeth o waith Owen. Bu farw yn Nhrosyparc ger Dinbych.

Aneurin Owen, gan artist anhysbys