Cyfres ddrama Gymraeg oedd Alys, a grëwyd gan y sgriptiwr arobryn Siwan Jones. Mae'r gyfres yn dilyn mam sengl, Alys, sy'n symud i ffwrdd o Gaerdydd i fflat llwm mewn tref fach yng ngorllewin Cymru gyda'i mab 10 mlwydd oed, Daniel, wrth geisio dianc rhag ei gorffennol.
Mae Alys yn cael ei phortreadu gan yr actores Sara Lloyd-Gregory, mewn rôl a gafodd ei ysgrifennu yn arbennig ar ei chyfer.[1][2] Y sioe oedd ei thro cyntaf mewn rôl arweiniol.[3] Roedd yr actorion arall yn cynnwys William Thomas ac Aneirin Hughes, a weithiodd gyda Gregory ar Con Passionate, cyfres ddrama deledu arall a ysgrifennwyd gan Siwan Jones. Cynhyrchwyd y sioe gan gwmni Apollo ar gyfer S4C. Dechreuodd y gyfres ar ddydd Sul, 23 Ionawr 2011, fel rhan o arlwy'r flwyddyn newydd ar S4C.
Cafwyd ffigyrau gwylio da ar gyfer y gyfres gyntaf, gyda'r bennod gyntaf yn denu 61,000 gwyliwr a ffigwr uchaf y gyfres yn 71,000 gwyliwr ym mhennod tri. Gwelwyd dirywiad yn y gwylwyr yn yr ail gyfres, gyda sgôr hynod o isel o 27,000 gwyliwr[4] ar gyfer pennod chwech, gyda chynnydd bychan ar gyfer y penodau dilynol. Gwyliwyd y bennod olaf gan 37,000 o wylwyr.[5]
Hyd yn hyn, cynhyrchwyd a darlledwyd dwy gyfres o Alys; y cyntaf yn gynnar yn 2011, a darlledwyd yr ail gyfres yn hwyr yn 2012. Nid oes sôn am drydedd cyfres yn cael ei gomisiynu.
Mae'r gyfres wedi ei henwebu ddwywaith yn 2012, yn gyntaf ar gyfer Cyfryngau Celtaidd Wobr ac yna Gwobr BAFTA Cymru. Yn 2013, cafodd y gyfres ei henwebu ar gyfer tair gwobr BAFTA Cymru; ac ennill dwy, gan gynnwys Sara Lloyd-Gregory yn derbyn y wobr am yr Actores Orau.
Cynsail a datblygu
Crëwyd a ysgrifennwyd Alys gan Siwan Jones, awdur oedd wedi ennill BAFTA Cymru Award a Rose d'Or am ei gwaith ar y cyfresi teledu uchel eu parch Tair Chwaer a Con Passionate.[1]
Ysgrifennwyd y prif gymeriad, Alys yn arbennig ar gyfer yr actores Sara Lloyd-Gregory. Roedd wedi cyfarfod Jones yn 2009 ac wedi cydweithio gyda hi ar y trydedd gyfres o Con Passionate, ac roedd yn ei meddwl i chwarae'r brif ran yn y gyfres ddrama newydd. Cyfaddefodd Gregory nad oedd yn gwybod fod y rhan wedi ei ysgrifennu ar ei chyfer, a bod hynny yn beth da, am fod dal iddi rhaid gwneud clyweliad ac fe fyddai wedi teimlo mwy o bwysau.[6]
Daeth y syniad ar gyfer Alys i Jones tra roedd yn siopa mewn tref fach yng ngorllewin Cymru. Roedd yn gwylio wrth i grŵp o bobl gario dodrefn wrth iddi gerdded o'r maes parcio tuag at y dref. Y tu ôl iddynt roedd twnnel dywyll yn arwain at galon adeilad; tra eu bod yn cerdded, roedd plant yn eu dilyn, ac wrth iddi wylio, sbardunodd hyn ddelwedd ar gyfer y gyfres a ddaeth yn Alys. Syniad Jones ar y dechrau oedd creu dau fyd; un gyda phobl dosbarth gweithiol yn berchnogion siop yn y dref fach; ac eraill a oedd yn ddi-waith ac yn ei chael yn anodd cadw dau ben llinyn ynghyd, megis cymeriad Sara Lloyd-Gregory, 'Alys'. Roedd hi'n anelu i ddangos pa mor wahanol mae'r ddau fyd yma ac eto pa mor debyg maen nhw.[1]
"Wy’n hoff iawn o Alys. Wy’n lico ei bod hi mor gryf. A bod ’na reswm y tu ôl i bopeth mae’n ei wneud. Dyw hi ddim yn berson drwg."
— Cyfweliad Sara Lloyd-Gregory ar gyfer y Daily Post.[7]
Canolbwynt y stori yw cymeriad Alys wrth iddi symud i dref fach yng ngorllewin Nghymru gyda'i mab 10 mlwydd oed Daniel ar ôl ffoi rhag ei bywyd cythryblus yng Nghaerdydd; mae hi'n bwriadu dechrau bywyd newydd ac yn gwneud unrhyw beth yn ei gallu i gael dau ben llinyn ynghyd ac i edrych ar ôl Daniel. Mae hyn yn cynnwys gweithgarwch troseddol, megis dwyn a phuteindra. Mae gan ei mab freuddwydion am symud i America un dydd a dod yn ofodwr; mae Alys yn ceisio gwireddu ei freuddwyd. Yn ei chymuned newydd, mae rhai o'r bobl dosbarth canol yn ei beirniadu am ei chefndir ac yn elyniaethus tuag ati. Fodd bynnag, mae hi'n llwyddo i wneud ffrindiau a chael ei derbyn gan rhai pobl o fewn yr ardal.
Cynhyrchu
Crëwyd a ysgrifennwyd Alys yn gyfan gwbl gan Siwan Jones. Cynhyrchydd y gyfres oedd Paul Jones gyda Jon Williams yn gynhyrchydd gweithredol. Yn y tymor cyntaf, cyfarwyddodd Gareth Bryn y bennod beilot a'r ail bennod; gyda Lee Haven-Jones a Rhys Powys yn cyfarwyddo penodau dilynol, yn y drefn honno. Cyfarwyddwyd rhan fwyaf o gyfres dau gan Rhys Powys. gyda Dylan Richard yn cyfarwyddo un bennod, a'r gweddill gan Paul Jones.[8]
Cymraeg yw iaith y gyfres i gyd heblaw am ambell olygfa lle siaredir Saesneg. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Strange Village.
Cychwynnodd cynhyrchiad cyfres gyntaf Alys yn ystod haf 2010, tra cynhyrchwyd yr ail gyfres o fis Mawrth 2012 gan Deledu Apollo.[9] Cafodd y gyfres ei ffilmio ar leoliad yn bennaf yng Nghaerdydd, Aberhonddu ac yn nhref glan môr y Barri.[9]
Darparodd cwmni Road2Reel yr holl gerbydau ar gyfer y gyfres.[9]
Cast a chymeriadau
Prif gymeriadau
Alys: (Sara Lloyd-Gregory – Cyfres 1–2) Mae Alys yn unigolyn cryf ac annibynnol, yn wreiddiol o orllewin Cymru ond wedi symud i Gaerdydd i fynd i brifysgol, lle ddaeth yn feichiog. Mae'n fam ifanc sy'n symud i dref frechan gyda'i mab, Daniel, i ddianc rhag ei gorffennol yng Nghaerdydd, yn dilyn marwolaeth ei brawd a'i chariad. Heb swydd nac arian mae'n cael fflat budr, llwm ac yn gwneud ffrindiau gyda'i chymdogion Ceri, Kevin, Shane a William. Mi fydd yn gwneud bron unrhyw beth i wneud yn siŵr fod bwyd ar y bwrdd i Daniel, yn cynnwys dwyn a phuteindra. Ei "chwsmer" cyntaf yw ei landlord Eirwyn Toms. Cynllun Alys yw gwneud digon o arian fel bod hi a Daniel yn gallu symud i America, lle gall Daniel wireddu ei freuddwyd o ddod yn astronot. Mae Alys yn mynd i drwbl yn aml gyda'r crachach cyfoethog yn y dre yn cynnwys perchennog siop ddillad, Debbie a Angie sy'n fam i Alex, ffrind Daniel. Mae Alys yn ymddangos ei fod yn syrthio mewn cariad gyda Chris, gwr Angie. Mae Alys yn gymwynasgar iawn gyda'i chymdogion Ceri a William sy'n dod fel teulu iddi. Mae'n casáu cyffuriau a cmae'n ymddangos fod ei gorffennol am ddod yn ôl i darfu ar ei bywyd.
Daniel: (Zachary Mutyambizi – Cyfres 1–2) Mab ifanc Alys yw Daniel, sy'n dioddef yn aml o anturiaethau ei fam, a'r pethau mae pobl yn ddweud amdani ond mae'n rhy ifanc i ddeall. Mae ganddo freuddwyd o ddod yn astronot rhyw ddydd. Mae'n ffrindiau gyda Alex, Angie a mab Chris.
Wiliam: (William Thomas – Cyfres 1–2) Roedd William yn weinidog ar un adeg, ond fe yw meddwyn y dref erbyn hyn, ac yn ffrind da i Alys a Ceri. Nid yw ei deulu am unrhyw gysylltiad gyda fe am fod ei yfed yn embaras iddyn nhw. Nid yw ei gyn-wraig Lizabeth a'i ferch Catrin eisiau ei weld er bod Catrin yn ei golli. Mae ei nai, Iestyn yn dod i'w weld yn aml yn y fflat, ond o ystyried ymddygiad William nid yw'n siŵr pam ei fod yn trafferthu.
Eirwyn Toms: (Aneirin Hughes – Cyfres 1–2) Yn cael ei adnabod fel "Toms", mae'n berchen garej ac fe yw landlord y fflatiau. Mae mewn dyled ddifrifol ac mewn perygl o golli ei gartref, ond mae'n llwyddo rhywsut i gadw fynd gyda chymorth maer y dref, Ron. Mae Toms yn talu am ryw gydag Alys ond yn ei ddifaru. Gyda'r heddlu ar ei gefn fe geisiodd ladd ei hun unwaith drwy foddi ei hun. Ar ôl marwolaeth eu merch, mae'n ymddangos fod Toms a'i wraig Heulwen yn ymwahanu, ond mae'n syrthio mewn cariad gyda gwraig Ron, Debbie, sy'n cael ei phroblemau ei hun gyda'i gŵr.
Heulwen: (Gillian Elisa – Cyfres1–2) Gwraig Toms yw Heulwen, sydd yn ymddangos yn isel ei ysbryd fel arfer, ar ôl marwolaethau ei merch Sarah a'r ffaith fod Toms mewn dyled fawr. Mae'n cael eu hadnabod fel "Mrs. T" gan nifer yn y dref. Aeth i ymweld â'i chwaer nad oedd wedi gweld ers ugain mlynedd, a'i chwaer oedd mam Alys, ond gan nad oedd wedi gweld Alys ers oedd yn ferch fach doedd hi ddim yn ymwybodol fod Alys yn byw yn yr un dref.
Ron: (Ifan Huw Dafydd – Cyfres 1–2) Maer y dref yw Ron, sy'n briod a pherchennog y siop ddillad, Debbie. Mae Debbie ag e yn cynnal ciniawau yn aml yn eu cartref ar gyfer Toms, Heulwen, Angie a Chris. Roedd Ron a Debbie yn cael ychydig o drafferthion yn eu priodas am ychydig ond yn ddiweddar mae Debbie wedi darganfod fod gan Ron luniau o ferched ifanc ar ei liniadur, a gafodd ei ddwyn.
Debbie: (Shelley Rees – Cyfres 1–2) Debbie yw'r perchennog siop ddillad busneslyd sy'n briod a maer y dref, Ron. Mae'n cael ei bwlio yn aml gan ei gŵr ac yn methu sefyll fyny iddo. Mae ganddi gi bach o'r enw Toots sydd yn cael ei drin fel plentyn ganddi. Mae wedi sylwi ar Toms yn mynd i'r fflatiau wrth ymweld ag Alys ar nifer o achlysuron ond yn ei gadw rhag Heulwen. Mae darganfod lluniau ar liniadur Ron yn rhoi straen ar eu priodas ac mae'n troi at Toms am gysur. Gyda gliniadur Ron yn cael ei ddwyn a llofruddiaeth Toots mae'n dechrau'r teimlo'r straen.
Angie: (Kate Jarman – Cyfres 1–2) Mae Angie yn berchen ar fwyty yn y dref, ac mae hi a'i gŵr Chris yn ei redeg. Mae ei mab Alex yn ffrind ysgol i Daniel sy'n cael ei drin yn wael ganddi ar adegau oherwydd ymddygiad Alys. Mae Angie wedi dweud wrth Alys nad yw'n deg ar Daniel. Mae Angie a Chris wedi siarad am orffennol Alys fel putain. Mae Angie yn dechrau amau fod rhywbeth yn mynd ymlaen rhwng Chris ac Alys.
Chris: (Rhys ap William – Cyfres 1–2) Gŵr Angie yw Chris, ac yn aml dyw e ddim yn cytuno neu hoffi be mae Angie yn ddweud, yn enwedig am Alys. Mae e wedi trafod gyda Angie am Alys yn puteinio ac wedi codi'r pwnc gydag Alys am ei fod yn poeni am Daniel oherwydd sut mae Alys yn ymddwyn, fel yr adeg pan oedd Daniel adref ar ben ei hun tra roedd Kevin fod edrych ar ei ôl. Yn ddiweddar mae wedi syrthio mewn cariad gydag Alys ac mae Daniel wedi gweld e a'i fam yn cusanu, ac mae'r ddau wedi cysgu gyda'i gilydd.
Kevin: (Aled Pugh – Cyfres 1–2) Cariad Ceri yw Kevin, brawd Shane a mab Bessie. Mae wedi cael perthynas gyda Vicky yn ddiarwybod i Ceri ac mae ganddo blentyn gyda hi, ond mae'n dal i garu Ceri. Mae e a Shane yn darganfod corff heb ben yn y bwyty Tsieenëg lleol ac ynghlwm a throsedd lleol. Mae Kevin a Shane yn dwyn gliniadur o dŷ Ron ac yn mynnu arian i roi'r gliniadur i Toms.
Shane: (Carwyn Glyn – Cyfres 1–2) Shane yw brawd iau Kevin a mab Bessie. Mae'n gweithio gyda'i frawd ac ar ôl darganfod corff yn y bwyty mae'n danfon neges i Toms ac yn cael ei arestio'n ddiweddarach. Mae'n hoffi Ceri ac felly yn casáu'r ffaith fod Kevin yn ei thwyllo am eu perthynas.
Ceri: (Catrin Mai Huw – Cyfres 1) Menyw ifanc isel ei ysbryd yw Ceri sy'n byw ochr arall y coridor i Alys ac yn dod yn ffrind gorau iddi. Mae'n byw gyda'i chariad Kevin sydd wedi bod yn cael perthynas a phlentyn gyda menyw arall, Vicky. Mae Ceri yn gwybod hyn ond heb ddweud dim byd nes un noson lle mae'n digio ac yn torri cadair ar ben Kevin. Ar noson allan gydag Alys, mae Ceri yn adnabod y gyrrwr tacsi fel y dyn oedd wedi ei threisio yn y gorffennol. O ganlyniad i'r drais cafodd Ceri fachgen bach ac fe geisiodd lladd ei hun. Mae Alys yn helpu Ceri i ddial drwy ddod o hyd i'r dyn a gwneud iddo dalu am be wnaeth ond mae'n ymosod ar Alys, felly mae Ceri a William yn dod o hyd iddo ac mae William yn torri ffenestri ei gar.[10]
Bessie: (Delyth Wyn – Cyfres 1–2) Bessie yw mam Kevin a Shane. Mae ei theulu bob amser yn rhan o weithgareddau troseddol, ac mae un arall o'i meibion yn y carchar. Pan fydd Shane yn cael ei arestio mae hi'n poeni bydd yr un peth yn digwydd iddo. Mae hi'n hoffi Ceri, ac yn casáu bod ei mab, Kevin wedi twyllo arni gyda Vicky, sydd wedi symud ar draws y stryd oddi wrtho.
Iestyn: (Gareth Nash – Cyfres 1–2) Nai William yw Iestyn ac mae'n gweithio yn y llyfrgell leol. Mae'n mynd yn aml i weld William ond yn casáu'r ffordd y mae William yn ymddwyn, ac mae wedi rhybuddio Alys i gadw i ffwrdd oddi wrth ei ewythr.
Dylan: (Paul Morgans – Cyfres 2) Athro yw Dylan sy'n rhentu tŷ Heulwen a Toms gyda'i wraig Lilo, Mae Dylan yn ceisio gwneud be mae'n gallu i gael gwared â Heulwen am ei bod yn boen wrth ddod mewn i'r tŷ a gwneud iddo gredu bod ei merch a bu farw, Sara yn byw yn y tŷ.
Llio: (Carys Eleri – Cyfres 2) Gwraig Dylan yw Llio a darpar fam sy'n symud fewn i dŷ Heulwen a Toms. Mae Llio yn fenyw hynaws sydd ddim yn cytuno gyda thriniaeth Dylan o Heulwen ac mae'n ei chroesawu i'r tŷ.
Phil: (Gareth Jewell – Cyfres 2[11]) Phil yw mab Bessie, a brawd Kevin a Shane, a gafodd ei ryddhau yn ddiweddar o'r carchar, ar ôl llofruddio ei gariad. Mae Martin, brawd ei gariad, ar gefn Phil ac am wneud be all e i dalu'r pwyth yn ôl. Mae Phil yn dod o ddiddordeb carwriaethol i Alys.
Cymeriadau achlysurol
Moira: (Menna Trussler – cyfres 1–2). Mae Moira yn wraig leol sydd a'i thrwyn mewn busnes pawb. Bu'n gweithio yn garej Toms ac yna fel cogydd cynorthwyol i Chris yn y bwyty.
Mam Alys: (Ri Richards – cyfres 1–2). Mam Alys, sydd heb weld ei merch ers sawl mis am nad ydynt yn cyd-dynnu. Darganfuwyd mai Heulwen yw ei chwaer.
Terry: (Simon Fisher – cyfres 1–2). Terry yw'r gyrrwr tacsi lleol, ac mae Alys a'i ffrindiau yn ceisio dial arno am fod Terry wedi treisio Ceri yn y gorffennol a'i chael yn feichiog.
Dora: (Siwan Bowen Davis – cyfres 1–2). Dora yw cariad Ken. Mae'n gwybod nad yw Terry a Ken yn bobl dda ond mae'n ofn gadael.
Alex: (Caradog Rhys – cyfres 1–2). Alex yw mab Angie a Chris ac mae'n ffrind i Daniel.
Ken: (Huw Euron – cyfres 2). Ken yw brawd Terry a cariad Dora .
Martin: (Gareth Milton – cyfres 2). Martin yw brawd cariad Phil, a lofruddiwyd gan Phil ac mae Martin am ddial ar Phil.
Crynodeb stori
Cyfres Un
Mae Alys, mam ifanc yn cyrraedd tref fechan yng Ngorllewin Cymru, ar ôl dianc ei gorffennol cythryblus yng Nghaerdydd lle bu farw ei brawd o orddos cyffuriau a lladdwyd ei brawd mewn damwain car. Mae'n benderfynol i roi bywyd gwell i'w mab deng mlwydd oed, Daniel. Mae gan Daniel freuddwyd o ryw ddydd symud i America i ddod yn astronot av mae Alys yn benderfynol o wireddu ei freuddwyd. Ar ôl cyrraedd, mae'n rhentu fflat o Eirwyn Toms, perchennog garej lleol. Mae Alys yn gwneud popeth i gael deupen llinyn ynghyd, yn cynnwys lladrata, blacmel a phuteindra, yn cynnwys gyda Toms sy'n dod yn gleient rheolaidd. Yn yr adeilad lle mae Alys yn byw, mae'n gwneud ffrindiau newydd gyda'i chymdogion, brodyr Kevin a Shane a chariad Kevin, Ceri - merch ifanc ofidus a chafodd ei threisio a dod yn feichiog. Mae Alys yn ffurfio perthynas glos gyda William, cyn weinidog ac alcoholig sy'n byw fyny grisiau, ond mae nai William, Iestyn yn anhapus a'r berthynas.
Mae sawl unigolyn yn yr ardal yn anghyfeillgar i Alys yn cynnwys gwraig Toms, Heulwen sy'n galw Alys yn "trailer trash" ac yn enwedig Angie, gwraig y cogydd lleol Chris, sy'n cael perthynas gudd gydag Alys. Pan mae Angie yn darganfod y berthynas mae'n dweud wrth Alys mai nad dyma'r tro cyntaf iddo gael affair. Mae Debbie, perchennog y siop ddillad isaf islaw'r fflat yn darganfod fod Alys wedi dwyn sawl peth o'r siop. Pan mae gŵr Debbie, maer y dref Ron yn cynnig swydd i Alys a Ceri yn glanhau ei dŷ, mae Debbie yn rhybuddio Alys i gadw draw. Mae Debbie yn gwneud darganfyddiad dychrynllyd arall pan mae'n datguddio cyfrinach Ron – fod ei liniadur yn cynnwys lluniau o ferched ifanc ac mae Toms a Ron fewn ar y cynllwyn. Mae Alys yn dod i sylweddoli fod ganddi fwy i boeni amdano na'r hyn mae pobl y dref yn feddwl ohoni; mae hi a William yn dod o hyd i'r gyrrwr tacsi, Terry a dreisiodd Ceri ac maen nhw'n benderfynol o wneud iddo dalu. Fodd bynnag, nid yw Alys yn barod pan mae Terry yn ymosod arni yn ddiweddarach.
Nes ymlaen ddatgelir mai Heulwen yw ei modryb, chwaer ei mam, a pan ladretir tŷ Ron, mae Alys yn cael gafael ar ei liniadur ac yn darganfod y lluniau. Mae hi'n cadw'r gliniadur a mynnu cael arian i'w roi nôl. Mae'n cael ymosodiad treisgar gan Toms ac yn ddiweddarach dau labwst y mae Ron wedi danfon i geisio cael y gliniadur, sydd nawr ar goll. Pan mae'r llabystiaid yn cyrraedd a gweld nad yw Alys yno, maen nhw'n ymosod ar William gan ei adael fel petai'n farw. Pan mae William yn yr ysbyty mae Alys yn datgelu mai hi achosodd damwain car ei chariad ac yn ddiweddarach heb iddi wybod mae William yn cael ei adael o'r ysbyty ac yn cael ei fygwch gan Iestyn i gadw oddi wrtho. Mae Ceri yn bwriadu mynd i angladd merch yn ei arddegau a dreisiwyd a llofruddiwyd yn ddiweddar pan mae'n cyrraedd tŷ'r ferch gyda neb tu fewn heblaw Terry. Yn y cyfamser mae gan Toms gynllun dichellgar i losgi lawr y garej a hawlio arian yr yswiriant ac yn gofyn i Shane i helpu. Tra bod Alys a Daniel yn gorwedd ar lawr fflat wag William, mae Daniel yn datgelu mai ganddo fe oedd y gliniadur coll a'i fod wedi ei gadw yn saff. Yn fuan maen nhw'n clywed ffrwydrad yn y pellter a gweld fod garej Tom ar dân.
Cyfres Dau
Wedi darganfod fod y gliniadur wedi ei guddio gan Daniel, mae Alys yn mynd at Debbie a'i blacmelio i roi arian iddi er mwyn cael y gliniadur nôl. Yn dilyn ffrwydrad yn y garej, mae Shane yn mynnu cael arian o Toms am wneud y weithred. Mae corff Ceri yn cael ei ollwng mewn afon gerllaw. Mae deuddeg mis yn pasio, nid oes neb yn gwybod lle mae William. Mae Alys yn symud mewn i dy gyferbyn a Bessie, Kevin a Shane yn ddiarwybod o'i thwyll gyda'r gliniadur er mwyn cael swm mawr o arian ac mae'n poeni y bydd y gyfrinach yn cael ei ddatgelu unwaith i Debbie a Ron ddychwelyd o wyliau yn Sbaen. Mae Alys yn benderfynol o ddod o hyd i'r gwirionedd am lofruddiaeth Ceri ac mae'n siŵr fod Terry y gyrrwr tacsi tu ôl i'r peth ac am wneud iddo dalu.
Yn y cyfamser, nid yw Heulwen yn gallu talu'r morgais ar ei chartref yn dilyn methdaliad Toms a'i chwalfa feddyliol, ac yn cael ei gorfodi i fyw mewn carafan yn yr ardd gefn, gyda ymweliadau cyson o Alys sydd nawr yn gwybod fod yn fodryb iddi. Mae cwpl ifanc, Dylan a'i wraig feichiog Llio, yn penderfynu rhentu'r tŷ ond dyw Dylan ddim yn hapus fod Heulwen yn byw yn yr ardd. Mae Llio yn credu fod endid uwch-naturiol yn y tŷ pan mae pethau anesboniadwy yn dechrau digwydd. Nid yw Dylan wedi ei argyhoeddi o hyn. Fodd bynnag, mae Heulwen yn dweud y gallai fod yn ysbryd ei merch. Sara. Mae mab Bessie, Phil, yn dychwelyd ar ôl cael ei ryddhau o garchar am lofruddio ei gariad; mae'n dechrau syrthio mewn cariad gydag Alys, ac er bod hithau yn teimlo'r un fath, mae'n dechrau cael amheuon pan mae Martin, brawd cyn cariad Phil yn ymddangos a dechrau ei boenydio, gan orfodi Alys i wneud penderfyniad anodd os yw'n gallu ymddiried yn Phil. Mae Chris yn dod yn eiddigeddus pan fod Simon, hen ffrind ysgol i Angie yn symud i'r ardal, ac yn argyhoeddedig fod gan Simon obsesiwn gyda hi. Mae William yn dychwelyd a symud mewn gydag Alys.
Hanes darlledu
Darlledwyd Alys am y tro cyntaf ar S4C ar 23 Ionawr 2011, gydag isdeitlau Saesneg. Roedd yn darlledu ar nosweithiau Sul am 9.00 pm gyda'r penodau yn cael eu ail-ddarlledu ar ddydd Iau am 10.00 pm. Roedd wyth pennod yng nghyfres un a daeth y gyfres i ben ar 13 Mawrth 2011.
Cafodd gwylwyr gyfle i gael rhagolwg o'r bennod gyntaf rhai diwrnodau cyn iddo gael ei darlledu ar y teledu. Roedd rhagolwg i'w weld mewn digwyddiadau yn Neuadd Ddinesig Llandeilo ar ddydd Llun 17 Ionawr am 7.30 pm, Neuadd JP Prifysgol Bangor ar ddydd Mawrth 18 Ionawr, a Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu ar ddydd Gwener 21 Ionawr. Yn dilyn y sgrinio, roedd cyfle i'r gynulleidfa drafod y sioe a gofyn cwestiynau i'r panel yn gysylltiedig â'r gyfres, gan gynnwys Siwan Jones, Sara Lloyd-Gregory a'r cynhyrchydd Paul Jones.[12][12]
Cychwynnodd ail gyfres Alys ar S4C ar ddydd Sul 11 Tachwedd 2012 am 9.00 pm, gyda ailddarllediadau o ddydd Mercher 14 Tachwedd 2012 am 10.00 pm.[13] Roedd wyth pennod yn y gyfres, gan orffen ar ddydd Sul 30 Rhagfyr 2012. Roedd unwaith eto ar gael gydag isdeitlau Saesneg ar alw, ond wedi llosgi ar y sgrîn yn yr ailddarllediadau.
Cafodd y sioe ei darlledu mewn manylder uwch ar sianel Freeview S4C Clirlun, oedd ar gael yng Nghymru yn unig.[14] Fodd bynnag, caewyd y sianel hon ar 1 Rhagfyr 2012 felly darlledwyd y pum pennod olaf o'r ail gyfres ar y sianel diffiniad safonol yn unig.
Ar ôl eu darlledu, roedd cyfres un a dau i'w gweld ar-lein am 35 diwrnod yn unig ar wasanaeth ar-lein S4C, Clic.[15][16]
Fe gynghorwyd na ddylai unrhyw un o dan 16 oed wylio oherwydd iaith gref.[16] Ar wahân i'r iaith, roedd y sioe hefyd yn cynnwys golygfeydd o drais cryf, rhyw, trais rhywiol a themâu oedolion cryf.
Roedd y gyfres ar gael i'w wylio yng ngweddill gwledydd Prydain, drwy sianel S4C ar lwyfan Sky. Roedd y penodau ar Clic hefyd ar gael i wylwyr yng ngweddill y DU.
Hyd at 2016, nid yw Alys wedi ei ail-ddarlledu heblaw am y darllediad gwreiddiol. Nid oes cynlluniau wedi ei gwneud i ddangos Alys eto ac mae'n ansicr ar hyn o bryd os bydd y gyfres yn cael ei ail-ddarlledu ar S4C. Nid oes cynlluniau ar hyn o bryd i ryddhau'r gyfres ar DVD neu Blu-ray.
Nid oes trydedd gyfres o Alys wedi ei gomisiynu, er bod yr ail gyfres wedi gorffen gyda cliffhanger. Ar hyn o bryd ystyrir fod y gyfres wedi dod i ben.
Yng nghyfres cyfres gyntaf Alys defnyddiwyd teitlau agoriadol syml gyda teitl a cherddoriaeth am tua 5 eiliad heb enwau cast. Defnyddiwyd cerddoriaeth thema'r gyfres dros yr agoriad. Er ei fod yn cael ei chwarae'n llawn dros y teitlau cloi, yn y bennod gyntaf ymddangos y teitl cyn yr olygfa agoriadol. Dilynodd pob pennod ddilynol y drefn yma, ond yn cynnwys crynodeb o'r bennod gyntaf cyn y teitl.
Yn yr ail gyfres, defnyddiwyd fersiwn mwy cyfoes o'r teitl agoriadol a 5 eiliad o'r gerddoriaeth. Newidiwyd ffont y teitl a ychwanegwyd testun yn dweud "gan Siwan Jones". Roedd pennod gyntaf yr ail gyfres yn cynnwys crynodeb estynedig o ddigwyddiadau cyfres un. Yn dilyn y teitl, dangoswyd ôl-fflach o bennod olaf cyfres un wedi ei gymysgu gyda golygfeydd newydd. Yn dilyn y bennod yma, dangoswyd y teitl cyn y crynodeb. Dangoswyd y crynodeb i'r ail gyfres mewn agwedd 2.35:1 a newidiwyd y gerddoriaeth ychydig.[36]