Alain-Fournier |
---|
|
Ganwyd | Henri-Alban Fournier 3 Hydref 1886 La Chapelle-d'Angillon |
---|
Bu farw | 22 Medi 1914 Les Éparges, Saint-Remy-la-Calonne |
---|
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
---|
Alma mater | - Lycée Louis-le-Grand
- Lycée Lakanal
- Lycée Voltaire
|
---|
Galwedigaeth | llenor, nofelydd |
---|
Adnabyddus am | Le Grand Meaulnes |
---|
Gwobr/au | Mort pour la France, Prix Jules Davaine |
---|
Alain-Fournier oedd ffugenw y nofelydd o Ffrainc, Henri Alban-Fournier (3 Hydref 1886 - 22 Medi 1914). Ystyrir ei unig nofel, Le Grand Meaulnes (1913), yn glasur.
Ganed Alain-Fournier yn La Chapelle-d'Angillon, yn département Cher. Bu'n ysgrifennu beirniadaeth lenyddol i'r cylchgrawn
Paris-Journal o 1910 ymlaen, yna'n gynorthwydd personol i'r gwleidydd Casimir Perrier. Gorffennodd Le Grand Meaulnes yn gynnar yn 1913, ac fe'i cyhoeddwyd yn y Nouvelle Revue Française rhwng Gorffennaf a Hydref, cyn ei gyhoeddi fel llyfr.
Ymunodd a'r fyddin pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn Awst 1914. Fe'i lladdwyd fis yn ddiweddarach, mewn brwydr ger Vaux-lès-Palameix. Cyhoeddwyd ei weithiau llenyddol eraill wedi ei farwolaeth.
Cyhoeddiadau
Cyfeiithwyd Le Grand Meaulnes i'r Gymraeg gan E.T. Griffiths fel Y Diriogaeth Goll (Llyfrau'r Dryw, 1969).
Cyfeiriadau