Afon Neva |
Math | afon |
---|
|
Daearyddiaeth |
---|
Rhan o'r canlynol | Unified Deep Water System of European Russia |
---|
Sir | Oblast Leningrad, St Petersburg |
---|
Gwlad | Rwsia |
---|
Cyfesurynnau | 59.9567°N 31.0456°E, 59.9447°N 30.3094°E |
---|
Tarddiad | Llyn Ladoga |
---|
Aber | Neva Bay |
---|
Llednentydd | Afon Mga, Afon Tosna, Afon Izhora, Afon Slavyanka, Afon Okhta, Afon Moyka, Afon Dubrovka, Duderhof Channel, Kronverksky Strait, Moyka, Murzinka, Svyatka, Spartak, Chyornaya Rechka, Utka, Chyornaya, Camlas Ladoga, Afon Pryazhka, Salnobuyansky Canal, Svyatukha, Kiselëvka |
---|
Dalgylch | 281,000 cilometr sgwâr |
---|
Hyd | 74 cilometr |
---|
Arllwysiad | 2,500 metr ciwbic yr eiliad |
---|
Llynnoedd | Llyn Ladoga |
---|
|
|
|
Afon fer yng ngogledd-ddwyrain Rwsia sy'n cysylltu Llyn Ladoga â Gwlff y Ffindir a Môr y Baltig yw Afon Neva (Rwsieg Невá / Neva). Mae'n llifo allan o Lyn Ladoga ger Shlisselburg, gan lifo i'r de-orllewin drwy ddinas St Petersburg. Ei hyd yw 74 km. Mae 28 km ohoni yn gorwedd y tu fewn i ddinas St Petersburg. Ei lled yw 400 i 600m ar gyfartaledd, gyda lled mwyaf o 1200m yn ei haber yn St Petersburg. Ei dyfnder ar gyfartaledd yw 8 i 11m.
Mae'r cyfeirad cyntaf at yr afon yn ddyddio i 1240 a Brwydr Afon Neva, ysgarmes rhwng lluoedd Novgorod a Sweden. Bu'r Novogorodiaid yn fuddugol, ac fe gymerodd Tywysog Aleksandr, oedd yn eu harwain, y llysenw Nevsky ('o'r Neva') o ganlyniad.
Mae'r afon yn chwarae rôl amlwg mewn llawer o weithiau llenyddiaeth Rwsieg. Mae cerdd Pushkin, Medny vsadnik ('Y marchog efydd'), yn digwydd yn ystod llifogydd ar y Neva yn St Petersburg.