Afon yng ngogledd-ddwyrain Affrica ac un o'r ddwy afon sy'n ymuno i ffurfio afon Nîl yw Afon Nîl Las.
Mae'r afon yma yn dechrau yn Llyn Tana yn ucheldiroedd Ethiopia, ac yn llifo tua 1,400 km (850 milltir) i ymuno a'r Nil Wen ger Khartoum. Yn yr haf, pan fydd y tymor glawog yn ucheldir Ethiopia, Y Nîl Las sy'n cyfrannu'r rhan fwyaf o'r dwr i Afon Nîl, ond mae llawer llai o ddwr ynddi ar adegau eraill o'r flwyddyn.