Roedd John Aeron Thomas (24 Tachwedd 1850 – 1 Chwefror 1935) yn gyfreithiwr, diwydiannwr a gwleidydd o Gymru a wasanaethodd fel Maer Abertawe ac Aelod Seneddol Rhyddfrydol Gŵyr rhwng 1900 a 1906.[1]
Bywyd personol
Ganwyd Thomas ar fferm Panteryrod, Llwyncelyn, Aberaeron lle fu Lewis a Jane Thomas, ei rieni, yn amaethu. Bu ei frawd iau, Dr Garrod Thomas, hefyd yn Aelod Seneddol.[2]
Cafodd ei addysgu yn breifat gartref cyn mynd i Ysgol Ramadeg Llwynyrhoden, Llandysul yn 12 oed. Ymadawodd a'r ysgol yn 15 er mwyn gweithio ar y fferm. Wrth weithio ar y tir am 5 mlynedd daeth i ddeall pa mor fregus oedd y perthynas rhwng tenantiaid amaethyddol a'r tirfeddianwyr. Penderfynodd ddychwelyd i'r ysgol er mwyn gwella ei gyfleoedd mewn maes arall. Gwariodd blwyddyn yn Ysgol Ramadeg Aberdaugleddau.[2]
Ym 1880 Priododd, Eleanor (Nelly) Emma Lewis, merch John Lewis, Llanymddyfri. Bu iddynt ddau fab ac un ferch.[3]
Gyrfa
Wedi ymadael a'r ysgol am yr ail waith aeth Thomas i gwmni Asa Evans, Aberteifi fel clerc erthyglau. Wedi ennill ei erthyglau fe'i cymhwyswyd yn gyfreithiwr ym 1874. Ym 1875 cafodd cynnig swydd yng nghwmni cyfreithiol dylanwadol Smith, Lewis & Jones Abertawe a Merthyr i fod yn glerc yn swyddfa'r cwmni yn Abertawe. Roedd cytundeb gwaith y cwmni yn cynnwys amod byddai'n cyfyngu ar ei hawl i ymarfer y gyfraith tu allan i'r cwmni. Gwrthododd Thomas y swydd a phenderfynodd sefydlu ei gwmni cyfreithiol ei hun, sef Aeron Thomas & co, Abertawe. Yn ogystal â gweithio fel cyfreithiwr bu Thomas yn un o gyfarwyddwyr Weaver & Co, cwmni oedd yn mewnforio grawn o Ffrainc, Rwsia, yr Unol Daleithiau a Chanada.[4] Adeiladodd y cwmni Melin Blawd Weaver yn nociau Abertawe; yr adeilad concrit cyfnerth cyntaf yn Ewrop.[5] Ym 1893 ehangodd ei ddiddordebau diwydiannol i'r maes glo, gan ffurfio Emlyn Colliery Co. Ltd. Roedd y cwmni yn berchen ar waith glo Emlyn ym mhentref Pen-y-groes, Sir Gaerfyrddin [6]. Roedd hefyd yn gyfarwyddwr Cwmni Glo Felinfran, Y Glais, cwmni glo Foxhole, Bôn-y-maen, cwmni glo Berthlwyd, Tre-gŵyr a nifer o gwmnïau eraill.
Gyrfa wleidyddol
Safodd Thomas yn enw'r Blaid Ryddfrydol fel ymgeisydd ar gyfer un o'r tair sedd yn Ward y Gorllewin yn etholiadau Cyngor Abertawe ym 1887. Y canlyniad oedd:[7]
Ymgeisydd
|
Pleidleisiau
|
Canlyniad
|
W Richards
|
434
|
wedi ei ethol
|
Christopher James
|
330
|
wedi ei ethol
|
H A Chapman
|
272
|
wedi ei ethol
|
J Aeron Thomas
|
187
|
heb ei ethol
|
Aeth Thomas i'r uchel lys i herio ethol James. Ei ddadl oedd bod James allan o wledydd Prydain ar ddiwrnod yr enwebiad a heb arwyddo'r ffurflen i gydsynio i gael ei enwebu; gan hynny nad oedd ei enwebiad yn ddilys.[8] Enillodd Thomas yr achos gan gymryd ei sedd ar y cyngor ym mis Chwefror 1888. Yn etholiad 1893 collodd Thomas ei sedd i'r Ceidwadwr Phillip Richard ond cipiodd y sedd yn ôl yn etholiad 1896. Ym 1897 cafodd ei ddewis gan ei gyd cynghorwyr i wasanaethu fel Maer am y flwyddyn 1898.[9]
Roedd David Randell Aelod seneddol Rhyddfrydol Gwŷr, wedi bod yn dioddef o salwch am beth amser. Rhoddodd gwybod i'w gymdeithas Ryddfrydol nad oedd am sefyll yn etholiad 1900. Bu pedwar dyn yn sefyll fel darpar ymgeiswyr y Rhyddfrydwyr i'w olynu; E H Hedley, Aeron Thomas, John Hodge a Daniel Lleufer Thomas. Enillodd Aeron Thomas yr enwebiad ond penderfynodd John Hodge ei fod am sefyll fel ymgeisydd Llafur annibynnol.[10] Yn yr etholiad cyffredinol llwyddodd Thomas i gadw'r sedd dros y Rhyddfrydwyr. Penderfynodd Thomas i beidio amddiffyn ei sedd yn etholiad cyffredinol 1906.
Marwolaeth
Bu farw Nellie, gwraig Aeron Thomas ar 29 Ionawr 1935. Ychydig oriau wedi ei hangladd ar 1 Chwefror, bu farw Aeron Thomas yn ei gartref yn Abertawe wedi dioddef pwl o froncitis acíwt.[11] Claddwyd ef wrth ymyl ei wraig ym mynwent Ystum Llwynarth.
Cyfeiriadau