Abasan al-Kabera

Abasan al-Kabera
Mathdinas Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlywodraethiaeth Khan Yunis Edit this on Wikidata
GwladGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
Uwch y môr77 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.3233°N 34.3469°E Edit this on Wikidata
Map
Mae Abasan yn ailgyfeirio i'r dudalen yma. Am y dref gyfagos gweler Abasan al-Saghira.

Tref yn nhalaith Khan Yunis yn ne Llain Gaza, Palesteina, yw Abasan al-Kabera (hefyd Abasan al-Kabira; Arabeg: عبسان الكبيرة‎). Mae ffordd yn cysylltu'r dref a dinas Khan Yunis, gan basio trwy Bani Suheila.

Yn ôl cyfrifiad Awdurdod Cenedlaethol Palesteina, roedd gan Abasan boblogaeth o 19,000 yn 2006, gyda'r mwyafrif yn dibynnu ar amaethyddiaeth i ennill eu bywoliaeth.

Rhyfel 2008-2009

Ar 6 Ionawr 2009, ar 11eg ddiwrnod rhyfel Israel ar Gaza 2008-2009, ymosododd colofn o danciau Israelaidd gyda chefnogaeth hofrenyddion arfog ar ardal Khan Yunis. Yn ôl AFP, aeth y tanciau i mewn gyda'r wawr. Bu ymladd ffyrnig rhwng y milwyr Israeliaid a rhyfelwyr gwrthsefyll Hamas gyda'r brwydro'n drymaf yn nhref Abasan al-Kabera. Lladdwyd rhai sifiliaid yn Khan Yunis ei hun wrth i fomiau disgyn.[1]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol