Olion traed yw'r argraffiadau neu'r delweddau sy'n cael eu gadael ar ôl gan berson neu greadur arall sy'n cerdded neu'n rhedeg. Gellir cyfeirio at olion a adawyd gan anifeiliaid â charnau neu bawennau yn olion carnau ac olion pawennau ac olion a adawyd gan esgidiau yn benodol fel "olion esgidiau". Gallant naill ai fod yn ddanheddiadau yn y ddaear neu fod wedi'u creu gan rhywbeth a oedd yn sownd i waelod y droed ac a adawyd ar yr wyneb. Mae "llwybr" yn set o olion traed mewn pridd meddal a adawyd gan fod byw; llwybrau anifeiliaid yw olion traed, carnau neu bawennau anifail.
Gellir dilyn olion traed wrth olrhain llwybr yn ystod helfa neu gallant ddarparu tystiolaeth o weithgareddau. Mae rhai olion traed yn dal heb eu hesbonio, ac yn destun i chwedloniaeth mewn nifer o ddiwylliannau. Mae eraill wedi darparu tystiolaeth o fywyd ac ymddygiad cynhanesyddol.
Olion traed mewn gwaith ditectif
Gall yr ôl troed a adawyd lle mae trosedd wedi'i gyflawni roi tystiolaeth hanfodol sy'n arwain at y sawl a gyflawnodd y drosedd. Mae gan esgidiau lawer o wahanol olion yn seiliedig ar ddyluniad y wadn a faint y mae wedi gwisgo - gall hyn helpu i adnabod pobl sydd dan amheuaeth.[1] Gellir cymryd ffotograffau neu gastiau o olion traed i gadw'r canfyddiad. Mae dadansoddi olion traed ac esgidiau yn agwedd arbenigol o wyddoniaeth fforensig.
Gall olion traed ganiatáu i'r ditectif gael brasamcan o daldra'r troseddwr.[2] Dangoswyd bod olion traed wedi gallu cael eu defnyddio i bennu uchder a rhyw'r unigolyn. Mae'r droed yn tueddu i fod tua 15% o uchder cyfartalog yr unigolyn.[3][4] Gall nodweddion unigolyddol yr olion traed helpu'r gwyddonydd fforensig mewn achosion sy'n ymwneud ag adnabod troseddol.[3] Mewn rhai achosion fforensig, gall yr angen godi hefyd i amcangyfrif pwysau corff yn seiliedig ar faint yr olion traed.[5]
Patrymau croen
Mae croen ar wadnau'r traed a'r bysedd traed yr un mor unigryw â'r manylion sydd ar fysedd a chledrau'r dwylo. Pan gânt eu hadfer mewn man lle cyflawnwyd trosedd neu ar ddarnau o dystiolaeth, gellir defnyddio argraffiadau gwadnau a bysedd y traed yn yr un modd ag olion bysedd a chledrau'r dwylio i adnabod yr unigolyn. Mae tystiolaeth olion traed wedi'i derbyn mewn llysoedd yn yr Unol Daleithiau ers 1934.[6]
Mae olion traed yn cael eu defnyddio i adnabod plant mewn ysbytai ac nid yw'n anarferol iddynt gael eu defnyddio yng nghofnodion y lluoedd awyr.
Olion traed hynafol
Mae olion traed wedi'u cadw fel ffosilau ac yn rhoi tystiolaeth o fywyd cynhanesyddol. Gelwir y ffosilau hyn yn "olfeini", a gall hyn roi cliwiau i ymddygiad rhywogaethau penodol o ddeinosoriaid.
Mae olion traed dynol a grëwyd 1.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl wedi'u darganfod yn Ileret, Cenia. Dyma'r dystiolaeth uniongyrchol gynharaf o'r dull dynol o gerdded ar i fyny ar y ddwydroed. Mae'r tîm a wnaeth y darganfyddiad yn credu ei bod yn debyg bod yr olion wedi'u ffurfio gan y rhywogaeth Homo erectus.[7]