Cafodd maes chwarae Parc Eirias ei ail-enwi'n Stadiwm Zip World yn 2017.[1]
Zip World Velocity, Bethesda
Zip World Velocity oedd yr atyniad cyntaf a greodd Zip World, ac agorodd i'r cyhoedd ym mis Mawrth 2013. Hon yw'r weiren sip hiraf yn Ewrop a'r gyflymaf yn y byd.[2]
Zip World, Blaenau Ffestiniog
Mae Zip World Blaenau Ffestiniog yn cynnwys tri atyniad, sef Titan, Bounce Below a Caverns. Y weiren sip gyntaf yn Ewrop i bedwar person yw Titan. Maes trampolinau ar rwydiau tanddaearol yw Bounce Below. "Antur o dan y ddaear" yw disgrifiad Caverns.
Zip World, Coedwig Betws y Coed
Chwe atyniad sydd yn Zip World, Coedwig Betws y Coed, sef Coaster (reid o gwmpas y goedwig), Plumet (tŵr sydd yn plymio), Skyride (siglen enfawr), Treetop nets (rhwydi yn uchel yn y coed), Tree hoppers (cwrs antur i blant) a Zip safari (gwifrau sy'n mynd o goeden i goeden).