Tŷ allan dan do er mwyn storio grawn, gwair, porthiant a pheiriannau'n glyd i'u diogelu rhag y gwynt a'r glaw yw ysgubor. Yn draddodiadol, cerrig a ddefnyddid i adeiladu ysguboriau, ond erbyn hyn mae ysguboriau metel yn gyffredin hefyd. Mewn rhai gwledydd pren yw'r deunydd arferol.