Ysgol y Brenin Harri VIII, Y Fenni

Ysgol y Brenin Harri VIII
Arwyddair Parchu traddodiad, cynnwys y dyfodol
Sefydlwyd 1542
Math Cyfun
Cyfrwng iaith Saesneg
Pennaeth Elspeth Lewis
Lleoliad Hen Heol Henffordd, Y Fenni, Cymru, NP7 6EP
Cyfesurynnau 51°49′53″N 3°01′02″W / 51.8313°N 3.0173°W / 51.8313; -3.0173
AALl Cyngor Sir Fynwy
Staff 80
Disgyblion 1200
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Llysoedd 4: Aragon, Howard, Parr, Seymour.
Lliwiau du a melyn
Gwefan http://www.kinghenryviiischool.org.uk

Ysgol uwchradd gyfun yn y Fenni, Sir Fynwy, yw Ysgol y Brenin Harri VIII.

Hanes

Sefydlu 1542-1664

Yn dilyn diwygiad Protestanaidd y 1530au, rhoddwyd breinlythyrau'n sefydlu'r ysgol newydd 24 Gorffennaf 1542. Yn y rhain, y trosglwyddwyd y degwm a fu'n eiddo eglwysi Llanfihangel Crucornau, Llanddewi Rhydderch, Llanelen, Llanddewi Ysgyryd, Bryngwyn, a Llanwenarth, ynghyd â Phriordy'r Benedictiaid, yn hytrach i'r ysgol newydd. Ar ben hynny, rhoddwyd hefyd degymau Badgeworth yn Swydd Gaerloyw, a fu gynt yn mynd i'r priordy ym Mrynbuga, i ddefnydd trefolion y Fenni. Yn olaf, gan fod capel priordy'r Benedictiaid, Eglwys y Santes Fair, wedi ei throi'n eglwys i'r plwyf, penderfynwyd defnyddio hen egwlys Sant Ioan fel ysgoldy.

Rhoddwyd yr arian a ddaeth o'r degymau hyn i ymddiriedolaeth dan reolaeth "the bailiffs and commonality", rhagflaenwyr y cyngor tref. Roedd i ddarparu ar gyfer ysgol ramadeg lle dysgid Lladin. Enwyd yr ysgol newydd ar ôl ei noddwr, Harri VIII, brenin Lloegr, a benodwyd prifathro cyntaf yr ysgol, Richard Oldsworthy. Ar ei hagoriad, roedd gan yr ysgol 26 disgybl, pob un yn fachgen rhwng 7 a 14 oed.

Y cysylltiad â Choleg yr Iesu, Rhydychen 1664-1887

Roedd canrif cyntaf hanes yr ysgol yn ddigon ddiddigwyddiad gyda newid yn dod dim ond wedi camreolaeth gan yr ymddiriedolwyr lleol a osodai'r tiroedd ym Badgeworth ar brydles am lai na'u gwerth: pan ddaeth y brydles 99-mlynedd i ben ym 1644 trosglwyddwyd y rheolaeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen, a roddodd rent hafal ynghyd â chymrodoriaeth ac ysgoloriaeth i'r coleg hefyd. Bu hyn yn ddechreuad ar berthynas agos rhwng yr ysgol â'r coleg, lle cyfnewidid llawer un o ddisgyblion yr ysgol am sawl prifathro o Rydychen.

Aildrefnwyd rheolaeth yr ysgol gan ddeddf seneddol ym 1760. Bellach byddai Coleg yr Iesu, a enillodd y degwm o Swydd Gaerloyw, yn gyfrifol am gyflogi'r prifathro a'i dirprwy. Cafodd y ddeddf ychydig effaith wrth i'r hen adeilad gael ei ddymchwel ac i dŵr a thŷ crand gael eu hadeiladu yn ei lle. Saif y rheiny hyd heddiw. Erbyn i'r Parchedig William Morgan gyrraedd y llyw (1765-75) roedd yr ysgol yn ffynnu gyda 70-80 o fechgyn.

Dechreuodd newid eto yn y 1870au. Ad-drefnodd y prifathro James Webber y cwricwlwm, gan ddysgu'r clasuron, mathemateg, llunio, Ffrangeg, ysgrifennu, diwynyddiaeth, a rhifyddeg. Adeiladodd ddwy ystafell ddosbarth o fewn terfynau safle Eglwys Sant Ioan. Erbyn 1878 roedd 73 bachgen yn cael eu dysgu gan 3 meistr. Erbyn 1887 paratôdd y comisiynwyr elusennol gynllun i greu ysgol ar safle newydd, a'r cynnig hwn ddaeth â'r perthynas â Choleg yr Iesu i ben.

Canrif o ad-drefnu 1891-1972

Yr ymgais cyntaf i ad-drefnu oedd y cynllun yn 1891 a'r cynnig i greu ysgol i 200 o ddisgyblion ar safle 9-erw ym Pen-y-Pound. Bu peth oedi oherwydd amryw broblemau ac ni orffenwyd y gwaith adeiladu tan 1898, wedi costio £6,945. Roedd yr ysgol i fod yn ysgol ramadeg i ddisgyblion ar draws gogledd yr hen Sir Fynwy gan ddysgu Lladin, Saesneg, hanes, daearyddiaeth, Ffrangeg, rhifyddeg, algebreg, trigonometreg, a chemeg.

Yn ystod y 1920au adeiladwyd tair ystafell ddosbarth, a hefyd llyfrgell a mabolgampfa. Sefydlwyd Cymdeithas yr Hen Fechgyn mewn cyfarfod 7 Tachwedd 1923, a chyn hir roedd yn ffynnu â changhennau yn Llundain ac yn Aberystwyth. Erbyn y 1930 roedd gan yr ysgol 150 o ddisgyblion. Cyflwynwyd y gwyddorau newydd, Ffiseg a Bioleg, yn ystod y cyfnod ac adeiladwyd ystafell crefftiau newydd wrth i bwysigrwydd gwaith pren a gwaith metel gynyddu.

Yn dilyn Deddfy Addysg Butler yn 1944, cynigiodd Cyngor Sir Fynwy dri dewis ar gyfer y Fenni: ysgolion gramadeg i fechgyn ac i ferched, ac ysgol uwchradd fodern; ysgol ramadeg gymysg ac ysgol uwchradd fodern; neu ysgol amlochrog. Rhoddwyd gynnig ar bob yn o'r tri yn ystod y 25 mlynedd nesaf.

Ymddeolodd y prifathro Harry Newcombe yn 1954. Llwyddodd i ennill enw da i'r ysgol fel ysgol ramadeg glasurol. Cyhoeddodd yr awdurdod addysg lleol hysbysiad stadudol 21 Medi 1954 i sefydlu ysgol amlochrog i 850 o blant drwy gyfuno'r ysgolion gramadeg i fechgyn a merched. Rhwng 1954 a 1956 creodd yr awdurdod gynlluniau ar gyfer ysgol ramadeg fwy, yn darparu lle yn y diwedd i 510 plentyn gyda 60 disgybl yn y chweched dosbarth.

Roedd yr ysgol newydd ar Hen Heol Henffordd i fod y cam cyntaf i'r ysgol amlochrog. Hi heddiw yw adeilad yr ysgol uchaf. Roedd i gynnwys neuadd gynullfaol, mabolgampfa, a thri llawr o ystafelloedd ddosbarth ac ystafelloedd ymarferol. Dechrewyd y gwaith adeiladu ym 1960 ac agorwyd yr ysgol ym 1963. Cyfanswm disbyblion yr ysgol, i fod, oedd 448, gan gynnwys plant o ysgol ramadeg y Brenin Harri VIII i fechgyn, yr ysgol ganolradd i ferched, ysgol breifat Sant Ioan, a'r ysgol gwfaint.

Cwblhaodd y newid o ysgolramadeg gymysg i ysgol gyfun o dan arweiniad y prifathro Russell Edwards. Wrth wneud roedd rhaid adeiladu ysgol newydd yn gyfagos at y safle ym Pen-y-Pound. Roedd yr ysgol hefyd yn llyncu ysgol uwchradd fodern Grofield a sefydlwyd ym 1947. Cyn i'r ysgol newydd gael ei gorffen ym 1972 roedd hyn yn golygu bod rhaid i staff a disgyblion yr ysgol deithio rhwng gwahanol safleoedd yr ysgol. Cadwyd yr ysgol gyfun enw'r ysgol ramadeg, a throes adeilad yr ysgol ramadeg yn 'Ysgol Uchaf' a rhoddwyd yr enw 'yr Ysgol Isaf' ar yr adeilad newydd.

Llysoedd yr Ysgol

Roedd gan yr ysgol ddau lys yn wreiddiol: Rustican ac Oppidan, o'r Lladin am wlad a thref. Wrth i'r ysgol dyfu creodd strwythur newydd o bedwar llys wedi eu henwi ar ôl rhai o wragedd Harri VIII, brenin Lloegr: Aragon, Parr, Howard, a Seymour. Mae'r llysoedd hyn yn dal i gystadlu yn eisteddfodau blynyddol ac mewn achlysuron mabolgampau.

Prifathrawon a Phenaethiaid

Mae'r penaethiaid a wyddys amdanynt, fel y canlyn:

  • 1542 Richard Oldsworthy
  • c.1626 Morgan Lewis
  • c.1631 Morris Hughes
  • 1643-1661 Henry Vaughan
  • 1661-1662 John Cragge
  • 1662-1663 Thomas Franklyn
  • 1663 Nicholas Billingsley
  • 1670-1674 Richard Lucas
  • 1674-1684 Henry Rogers
  • 1702-1712 Morgan Lewis
  • 1713-1716 Thomas Watkins
  • 1716-1724 William Parry
  • 1724-1732 William Thomas
  • 1765-1775 William Morgan
  • 1775-1786 Edmund Sandford
  • 1786-1795 John George
  • 1795-1800 Charles Powell
  • 1800-1805 John Hughes
  • 1805-1806 John Llewellyn
  • c.1821 Thomas Williams
  • 1821-1823 Charles Hand
  • 1823-1828 Aaron Rogers
  • 1828-1832 Jenkin Hughes
  • 1833-1834 James Jones
  • 1834-1835 James Gabb
  • 1835-1876 Henry Peake
  • 1876-1898 James Webber
  • 1898-1919 Headland Sifton
  • 1919-1954 Harry Newcombe
  • 1954-1960 Thomas Edwards
  • 1960-1962 Harold Sharpe
  • 1962-1968 Gilmour Isaac
  • 1968 Leonard Porter
  • 1969-1985 Russell Edwards
  • c.1985 Derek Fisher
  • c.1995 M Brierly
  • 2001-2009 Gareth Barker
  • 2009- 2013 Nicholas Oaten
  • 2013-2014 Yvonne Jones
  • 2014- Elspeth Lewis

Cynddisgyblion nodedig

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato