Ysgol gynradd gyfrwng Gymraeg ym mhentref Rhoshirwaun, yng nghymuned Aberdaron, Gwynedd, yw Ysgol Llidiardau. Fe'i lleolir ym Mhen Llŷn, tua 3 milltir o Aberdaron. Mae'n rhan o dalgylch Ysgol Botwnnog, Botwnnog.