Ysgol gynradd yn Rachub, Dyffryn Ogwen, yw Ysgol Llanllechid sydd yn nalgylch Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda.
Gwenan Davies Jones yw ei phrifathrawes bresennol[angen ffynhonnell] ac mae'r ysgol yn un cyd-addysgiadol ar gyfer disgyblion 3-11.
Siarter Iaith
Mae'n ysgol ddwyieithog Cymraeg a Saesneg, er mai Cymraeg yw'r prif iaith dysgu.
“
|
Nôd syml y Siarter Iaith yw arwain at gynnydd yn nefnydd cymdeithasol plant o’r
Gymraeg gan eu hysbrydoli i wneud defnydd llawn o’r Gymraeg yn eu bywydau bob
dydd. Mae’r Siarter Iaith yn gofyn am gyfranogiad gan bob aelod o gymuned yr ysgol –
y cyngor ysgol, y disgyblion, y gweithlu, y rhieni, y llywodraethwyr a’r gymuned
ehangach er mwyn sicrhau perchnogaeth lawn ohoni.[1]
|
”
|
Clybiau
Yn yr ysgol, cynhelir gwahanol glybiau gan gynnwys:
- Clwb Ffrangeg
- Clwb Newyddiadura
- Clwb Gitâr
- Clwb Chwaraeon y Ddraig
- Clwb Cyfrifiaduron
- Clwb Pêl droed[2]
Cyfeiriadau
- ↑ Llawlyfr Gwybodaeth Ysgol Llanllechid. 2017. t. 28.
- ↑ Llawlyfr Gwybodaeth Ysgol Llanllechid. 2017. t. 9.
Dolenni allanol