Ysgol yn ardal Sgeti o ddinas Abertawe yw Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw. Sefydlwyd yr ysgol yn 2002 ar safle Ysgol yr Esgob Gore ond ym mis Medi 2008, symudodd yr ysgol i safle ac adeilad newydd sbon yn West Cross.[1] Mae'n ysgol ar gyfer disgyblion 3-11 oed a gwasanaetha'r ysgol ardal orllewinol y ddinas. Pan fydd yr ysgol yn cyrraedd ei llawn dŵf, disgwylir y bydd 315 o ddisgyblion yno. Cadeirydd y llywodraethwyr yw'r Cynghorydd Huw Rees a'r Pennaeth yw Mr. Alun Jones.[2] Mae'r ysgol yn nalgylch Ysgol Gyfun Gŵyr yn Nhregŵyr, Abertawe.