Mae Ysgol Gymraeg Cwm Derwen yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Oakdale, ger Coed-duon yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae ganddi oddeutu 200 o ddisgyblion gyda phob un ohonynt yn 2023 yn dod o gartrefi lle nad Cymraeg oedd iaith yr aelwyd.[1] Cyfeiriad yr ysgol yw Beech Grove, Oakdale, y Coed Duon, NP12 0JL.
Yn dilyn arolygiad a gynhaliwyd yn Nhachwedd 2023, canfu tîm o arolygwyr Estyn fod Ysgol Gymraeg Cwm Derwen yn ysgol “hollol gynhwysol” sy’n hyrwyddo positifrwydd o fewn eu hethos a’u hamgylchedd. Prifathrawes yr ysgol yn 2024 oedd Mrs Matthews.[2]
Hanes
Ysgol Gymraeg Cwm Derwen oedd degfed ysgol Gymraeg Cyngor Caerffili. Cyhoeddwyd cynlluniau i'w hagor er mwyn cynyddu'r galw am addysg Gymraeg yn 2007.[3]
Penderfynwyd agor yr ysgol newydd i 250 o ddisgyblion ar hen safle ysgol iau Rhiw Syr Dafydd. Cymeradwyodd cabinet y cyngor wariant o £200,000 ar addasu'r adeilad gwag. Mae dalgylch yr ysgol yn cynnwys Coed-duon, Oakdale, Rhiw Syr Dafydd, Pontllanfraith, Ynys-ddu a Chwmfelinfach, oedd yn arfer dod o fewn ardal deithio Ysgol Gymraeg Trelyn.[4]
Dolenni allanol
Cyfeiriadau