51°44′00″N 3°29′33″W / 51.733203°N 3.492587°W / 51.733203; -3.492587
Ysgol Gymraeg ger Hirwaun, Aberdâr yw Ysgol Gyfun Rhydywaun. Lleolir yr ysgol ar gyrion pentref Pen-y-waun.
Agorwyd yr ysgol ym mis Medi 1995. Sefydlwyd yr ysgol er mwyn delio â'r niferoedd cynyddol o ddisgyblion a oedd yn mynychu ysgolion cynradd Cymraeg yr ardal. Cyn iddi agor yr oedd rhaid i blant Cwm Cynon a Chwm Taf deithio i Ysgol Gyfun Rhydfelen, Pontypridd, er mwyn derbyn addysg uwchradd Gymraeg.
Mae Ysgol Gyfun Rhydywaun yn derbyn disgyblion o bum ysgol gynradd Gymraeg, sef Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon, Ysgol Gymunedol Penderyn, Ysgol Gynradd Gymraeg Rhydygrug ac Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful.
Mae cyn-ddisgyblion yr ysgol yn cynnwys y chwaraewr rygbi rhyngwladol Tom Young.
Bydd wir Bydd weithgar yw arwyddair yr ysgol.
Dolenni allanol