Ysgol gynradd gymunedol ym Mhorthmadog, Gwynedd ydy Ysgol Eifion Wyn. Enwyd yr ysgol ar ôl enw barddol Eliseus Williams. Yn adroddiad Estyn, disgrifir hi fel ysgol da hapus a gofalgar. Yno mae ymwybodaeth a balchrwydd o etifeddiaeth a treftadaeth Cymru yn cael eu hyrwyddo yn llwyddiannus.[3]
Symudwyd yr ysgol i adeilad newydd ger Canolfan Hamdden Glaslyn, agorwyd hi'n swyddogol ar 6 Tachwedd 2003 gan Bryn Terfel.[4] Erbyn hyn mae archfarchnad Tesco wedi ei hadeiladu ar hen safle'r ysgol.
Mae dwsin o athrawon ac 14 o staff ategol yn yr ysgol, y prifathro ers cryn amser, hyd Nadolig 2011, oedd Ken Hughes.[5] Daw y rhanfwyaf o blant yr ysgol (72%) o gartrefi ble mae Cymraeg yn iaith gyntaf, a 97% o'r plant yn siarad cymraeg i safon mamiaith.[3]
Enillodd disgyblion hyn yr ysgol Wobr Busnes Gwynedd yn 2007 wedi seflydu 'Cwmni Cŵl', y pwrpas oi sefydlu oedd i addysgu'r plant. Mae disgyblion yr ysgol yn mwynhau llwyddiant yn reolaidd mewn cystadleuthau megis Eisteddfod yr Urdd.
Ymysg cyn-ddisgyblion yr ysgol mae'r awdur Gareth F. Williams a'r cynhyrchwr a'r peirianwr cerddoriaeth Dyl Mei.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol