Ysgol gynradd gymunedol ddwyieithog yn Synod Inn, Ceredigion yw Ysgol Bro Siôn Cwilt.
Sefydlwyd yr ysgol fel ei bod yn gallu gwasanaethu dalgylchoedd hen ysgolion Llanllwchaearn, Gwenlli ac Ysgol Gymunedol y Castell sydd bellach wedi cau. Costiodd £3,383,000, ac ariannwyd gan Grant Rhaglen Gyfalaf i Gyngor Sir Ceredigion gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.[1][2]
Agorwyd yr ysgol ym mis Ionawr 2010, gyda agoriad swyddogol ar 16 Ebrill.[3]
Cododd niferoedd disgyblion yr ysgol o 116 i 143 o fewn blwyddyn, gan orfodi Cylch Meithrin Bro Siôn Cwilt i geisio a canfod cartref newydd ar gyfer eu 34 o blant.[4]
Enwyd yr ysgol ar ôl bro'r smyglwr lleol, Siôn Cwilt (weithiau Siôn Sais).
Cyfeiriadau