Grŵp gwerin cyfoes yw Yr Hwntws maent yn canolbwyntio ar ganu caneuon gwerin o ardaloedd Morgannwg a Gwent. Prif leisydd a phrif lefarydd y grŵp yw Greg Lynn. Daw'r enw o'r gair hwntw sef llysenw ar bobl o dde Cymru.
Arddull
Nodweddir cerddoriaeth y grŵp gan offerynnau gwerin a llais cryf Greg Lynn sy'n canu yn nhafodiaeth Gwenhwyseg cynhenid nifer o'r caneuon lle caledir cytseiniaid a defnyddir yr "a fain"[1] (sŵn e am e, fel y ceis yn acen ardal Maldwyn).
Ymysg un o'r caneuon a welir yn nodweddiadol o'r grŵp yw Cân Merthyr a Bachgen Bach o Dincer caneuon ddwyieithog, macaronig, fywiog a genir gan Greg Lynn.[1]
Rhyddhaodd y band alwmb 'Y Tribanwr' yn 2018 wedi ei seilio ar waith ymchwil hen lawysgrifau a llyfrau caneuon yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth gan gasglu enghreifftiau unigryw’r ffurf farddonol ‘tribannau Morgannwg’ – ffrwyth llafur y gwaith ymchwil yma oedd yr albwm ‘Y Tribanwr’ sy’n cynnwys 70 o dribannau traddodiadol wedi eu trefnu gan Nia Lynn a Bernie Killbride. Wrth ymchwilio daeth Gregg ar draws papurau D. Rhys Phillips yn adrodd hanes y tribannau.
Cyfrannodd Greg Lynn i CD amlgyfranog i ddathlu a chofnodi caneuon ganfuwyd a chyfraniad bersonol Dr Meredydd Evans a Phyllis Kinney i ganu gwerin Cymru, Ffylantin-tw!.[2]
Aelodau
Alodau cyfredol yr Hwntws (yn 2018) yw:
- Greg Lynn - prif leisydd
- Nia Lynn - llais, tabwrdd, offerynnau taro
- Bernard Killbride - ffidil
- Imogen O’Rourke - llais, ffliwt, chwiban D
- Dan B. James - gitâr, mandocello
- Dean Ryan - bâs dwbl, gitâr fâs
Aelodau gwreiddiol y Band yn 1982 oedd:
- Rosemary Lease - bodhrán
- Mike Lease - ffidil a gitâr
- Greg Lynn - llais, gitâr
- Paul Hopkins - mandolin
- Jethro Newton - llais
Disgograffi
Ceir rhestr gyda rhagflas o ganeuon Yr Hwntws ar catalog Recordiau Sain ar y dudalen yma.[2]
Dolenni
Cyfeiriadau