Mae'r Hen Ganfed neu'r Hen 100fed yn emyn-dôn mewn mesur hir a gyhoeddwyd gyntaf yn Pseaumes Octante Trois de David (1551) (ail argraffiad Sallwyr Genefa). Mae'n un o'r alawon mwyaf adnabyddus yn yr holl draddodiadau cerddorol Cristnogol. Mae'n cael ei briodolir fel arfer i'r cyfansoddwr Ffrengig Louis Bourgeois (tua 1510 - tua 1560).[1]
Hanes
Lluniwyd Sallwyr Genefa dros nifer o flynyddoedd yn ninas Genefa, y Swistir, canolfan gweithgaredd Protestannaidd yn ystod y Diwygiad Protestannaidd. Roedd yn ymateb i ddysgeidiaeth Jean Calvin bod canu cymunedol o'r salmau yn yr iaith frodorol yn agwedd sylfaenol ar fywyd yr eglwys.[2] Roedd hyn yn cyferbynnu â'r arfer Catholig cyffredinol ar yr pryd lle'r oedd clerigwyr yn canu testunau cysegredig yn Lladin yn unig.[3] Cyflenwodd cerddorion Calfinaidd, gan gynnwys Bourgeois, lawer o alawon newydd ac addasiadu eraill o ffynonellau cysegredig a seciwlar. Cwblhawyd fersiwn derfynol y sallwyr hon ym 1562. Roedd Calvin yn bwriadu i'r alawon gael eu canu mewn plaensiant yn ystod gwasanaethau eglwysig, ond darparwyd fersiynau mewn harmoni ar gyfer canu gartref.
Er bod y dôn wedi'i chysylltu gyntaf â Salm 134 yn Sallwyr Genefa. Mae'r alaw yn derbyn ei henw cyfredol o'i gysylltiad â'r 100fed Salm, mewn cyfieithiad mydryddol ohoni gan yr Albanwr William Kethe o'r enw All People that on Earth do Dwell. Mae'r alaw hefyd yn cael ei chanu i amryw o emynau eraill, gan gynnwys amryw o goralau Lutheraidd Almaeneg. Fe'i defnyddiwyd fel cantus firmus mewn cantata corawl gan Johann Sebastian Bach.
Defnydd Cymreig
Yng Nghymru mae'r dôn yn cael ei gysylltu'n bennaf a 6ed pennill emyn gan yr Esgob Thomas Ken (1637 –1711) a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan Hywel Harris.
Ymddangosodd cyfieithiad Harris gyntaf yn llyfr emynau Nicholas Thomas, Caerfyrddin [4]Llyfr o Hymnau o Waith Amryw Awdwyr (1740). Honnir fod y pennill "wedi bod yn fwy o fudd i drosglwyddo athrawiaeth y Drindod i gynulleidfaoedd na'r holl lyfrau diwinyddol sydd wedi'u hysgrifennu." [5]
Mae'n emyn rhif 15 yn Caneuon Ffydd, y Llyfr Emynau Cydenwadol a gyhoeddwyd yn 2001 [6]
Mae'r dôn hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer emyn William Hugh Evans (Gwyllt y Mynydd) (rhif 14 Caneuon Ffydd) [7]:
Roedd y Yr Hen Ganfed yn cael ei ddefnyddio fel ffug enw /mwys / sarhad Cymraeg am un oedd yn ddifrifol grefyddol, megis yng ngwatwar Wil Bryan ar Rhys Lewis yn llyfr Daniel Owen.
“
" Hwde di, yr hen ganfed! Yr ydw i'n meddwl fod yn amser i ni dy neyd di yn bregethwr ne yn flaenor, mi gymra fy llw." [8]