Grŵp mawr o ynysoedd (274 o leiaf) yn Nghulfor Torres yw Ynysoedd Culfor Torres. Lleolir y culfor rhwng Gorynys Penrhyn York, Awstralia, i'r de a Papua Gini Newydd i'r gogledd. Awstralia sy'n berchen ar y mwyafrif o'r ynysoedd ac maen nhw'n cael eu gweinyddu gan dalaith Queensland; Papua Gini Newydd sy'n berchen ar yr ynysoedd eraill.[1][2]