Ar Ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf 2024, ger Butler, Pennsylvania, Unol Daleithiau America, gwnaed ymgais i lofruddio Donald Trump, 45ain Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn ystod rali ar gyfer ei ymgyrch yn yr etholiad arlywyddol. Wrth annerch y dorf, cafodd Trump ei saethu yn ei glust dde. Yr un a ddrwgdybir oedd Thomas Matthew Crooks, a saethwyd yn farw gan un o'r Gwasanaeth Cudd.
Y Digwyddiad
Yn ôl llygad-dystion ar gyrion y rali, dringodd y saethwr, gyda gwn yn ei feddiant, ar ben adeilad unllawr y tu allan i'r terfyn diogelwch a godwyd gan yr heddlu, ac ymlusgodd ar hyd y to i anelu at Trump. Taniodd wyth rownd o'i reiffl AR-15, cyn iddo gael ei ladd gan gêl-saethwr o Dîm Gwrth-Ymosodd y Gwasanaeth Cudd ar ben adeilad y tu ôl i Trump. Wedi i fwled mynd trwy ei glust, disgynnodd Trump o'r llawr a chafodd ei amgylchynu gan asiantau'r Gwasanaeth Cudd. Cododd ar ei draed, gyda gwaed ar ei wyneb, a chododd ei ddwrn o flaen y dorf gan weiddi "fight, fight, fight!" Cafodd ei dywys ar frys i gar i'w ddwyn i'r ysbyty. Yn ogystal â'r anaf i Trump, cafodd un aelod o'r dorf ei ladd a dau arall eu hanafu'n ddifrifol. Trannoeth, cafodd yr un a lofruddiwyd ei enwi gan Josh Shapiro, Llywodraethwr Pennsylvania, fel Corey Comperatore, diffoddwr tân 50 oed.[1]
Y Saethwr
Nid oedd unrhyw gardiau adnabod ar gorff y saethwr, felly roedd yn rhaid i'r heddlu ei adnabod o'i DNA. Cyhoeddodd yr FBI mai Thomas Matthew Crooks, dyn 20 oed o Bethel Park, Pennsylvania, ydoedd.[2]
Cwestiynau dros ddiogelwch yr Arlywydd
Yn ôl sylwebyddion o bob math nodwyd bod cwestiynau mawr i'w gofyn dros brotocol a gweithred diogelu'r Arlywydd a sut y llwyddodd Crooks bron â lladd Trump. Yn ôl Dai Davies - arbenigwr diogelwch o Gymru sydd wedi cydweithio gyda swyddogion diogelwch America yn y gorffennol, roedd yna gwestiynau mawr i'w gofyn.[3]
Cyfeiriadau