Sefydlwyd y deyrnas gan un o gadfridogion Alecsander, Seleucus I Nicator, Groeg: Σέλευκος Νικάτωρ (Nicator, "y Buddugol"). Wedi marwolaeth Alecsander daeth i reoli ardal eang oedd yn ymestyn hyd at Afon Indus. Tua 305 CC sefydlodd Seleucia ar y Tigris fel prifddinas newydd. Yn ddiweddarach, symudwyd y brifddinas i Antiochia.