Ymerodraeth Awstria Kaisertum Österreich (Almaeneg )
Anthem Gott erhalte Franz den Kaiser "Duw gadwo'r Ymerawdwr Ffransis "
Location of Awstria Ymerodraeth Awstria in 1815.
Location of Awstria Tiriogaeth Ymerodraeth Awstria ar ei hanterth (1850au).
Prifddinas
Fienna
Ieithoedd
Almaeneg , Hwngareg , Tsieceg , Slofaceg , Pwyleg , Rwtheneg , Slofeneg , Croateg , Serbeg , Rwmaneg , Lombardeg , Feniseg , Ffriwleg , Ladineg , Eidaleg , Wcreineg
Crefydd
Yr Eglwys Gatholig Rufeinig
Llywodraeth
Ymerawdwr
-
1804–35
Ffransis I
-
1835–48
Ferdinand I
-
1848–67
Franz Joseph I
Gweinidog-Lywydd
-
1821–1848
Klemens von Metternich (cyntaf)
-
1867
Friedrich Ferdinand von Beust (olaf)
Deddfwrfa
Y Cyngor Ymerodrol
-
Upper house
Tŷ'r Arglwyddi
-
Lower house
Tŷ'r Dirprwyon
Cyfnod hanesyddol
19eg ganrif
-
Proclamasiwn
11 Awst 1804
-
Diddymu'r Ymerodraeth Lân Rufeinig
6 Awst 1806
-
Cynhadledd Fienna
8 Mehefin 1815
-
Mabwysiadu'r cyfansoddiad
20 Hydref 1860
-
Rhyfel Awstria a Phrwsia
14 Mehefin 1866
-
Cyfaddawd 1867
30 Mawrth 1867
Arwynebedd
-
1804
698,700 km² (269,770 sq mi)
Poblogaeth
-
1804 amcan.
21,200,000
Dwysedd
30.3 /km² (78.6 /sq mi)
Arian cyfred
Thaler (1804–57)
Vereinsthaler (1857–67)
1: Tiriogaethau Archddugiaeth Awstria a Choron Bohemia yn unig.
Gwladwriaeth amlgenhedlig yng Canolbarth Ewrop a fodolai o 1804 i 1867 oedd Ymerodraeth Awstria (Almaeneg Awstria: Kaiserthum Oesterreich ; Almaeneg Modern: Kaisertum Österreich ) a oedd yn un o'r pwerau mawrion yng nghyfnod Cytgord Ewrop . Sefydlwyd drwy broclamasiwn ar 11 Awst 1804 gan Ffransis II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig , a ddatganodd ei hun yn Ffransis I, Ymerawdwr Awstria. Fe'i crëwyd drwy uno tiriogaethau'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd , a pharhaodd Awstria yn un o daleithiau'r Ymerodraeth Lân Rufeinig nes 1806 pryd diddymwyd yr ymerodraeth gan Napoleon I, ymerawdwr Ffrainc . Yn sgil Cynhadledd Fienna (1815), ymunodd Awstria â Chydffederasiwn yr Almaen , ac Awstria a Phrwsia oedd dwy brif aelod-wladwriaeth yr hwnnw. Ymerodraeth Awstria oedd yr ymerodraeth drydedd fwyaf yn Ewrop yn nhermau poblogaeth – ar ôl Ymerodraeth Rwsia a Theyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon – ac yn nhermau arwynebedd, ar ôl Rwsia ac Ymerodraeth Gyntaf Ffrainc .
Cydnabuwyd lled-annibyniaeth Teyrnas Hwngari yn Regnum Independens , a chafodd Hwngari ei llywodraethu gan sefydliadau ar wahân. Yn sgil trechu Awstria yn Rhyfel Awstria a Phrwsia (1866), cytunwyd ar gyfaddawd (Almaeneg: Ausgleich , Hwngareg: Kiegyezés ) yn 1867 i sefydlu brenhiniaeth ddeuol Awstria-Hwngari .