Gwas neidr mawr o deulu'r Aeshnidae yw Ymerawdwr (enw gwrywaidd; llu. Ymerawdwyr; Lladin: Anax imperator; Saesneg: Emperor dragonfly) sy'n bryfyn yn Urdd yr Odonata (sef Urdd y Gweision neidr a'r Mursennod). Mae tiriogaeth yr A. mixta yn ymestyn o ogledd Affrica i dde a chanol Ewrop hyd at rhabarthau'r Baltig.
Dyma un o'r gweision neidr mwyaf: 78 milimetr (3.1 mod).[2] Yn Ewrop, Affrica ac Asia mae i'w gael gan fwyaf. Gallant hedfan yn uchel, gan fwyta pryfaid fel gloynnod byw. Maen nhw hefyd yn bwyta penbyliaid. Maen nhw'n paru ac yn cyplu mewn cynefin gwlyb, pyllau dŵr neu lynnoedd, sydd â thyfiant ynddo. Mae'r fenyw yn dodwy ei hwyau i mewn i'r planhigion hyn yn y dŵr. Mae'r gwryw yn cadw at ei filltir sgwâr.[3]