Y Noson Serennog

Y Noson Serennog
ArlunyddVincent van Gogh
Blwyddyn1889
CatalogueF612 JH1731
Maint73.7 cm × 92.1 cm ×  (29 in × 36 14 in)
LleoliadAmgueddfa Celfyddyd Fodern, Efrog Newydd

Darlun olew ar gynfas gan yr ôl-argraffiadydd o'r Iseldiroedd Vincent van Gogh ydy Y Noson Serennog. Peintiwyd ym mis Mehefin 1889 ac mae'n darlunio'r olygfa o ffenestr ddwyreinol ei ystafell mewn gwallgofdy yn Saint-Rémy-de-Provence, cyn toriad y wawr, gyda phentref wedi'i ychwanegu yn y pellter. Mae wedi bod yng nghasgliad Amgueddfa Celfyddyd Fodern, Efrog Newydd ers 1941. Ystyrir y darlun fel un o beintiadau gorau van Gogh, ac yn un o'r peintiadau mwyaf adnabyddus yn hanes diwylliant y Gorllewin.

Y Gwallgofdy

Mynachlog Saint-Paul de Mausole

Yn dilyn ei waeledd emosiynol ar 23 Rhagfyr 1888, a arweinodd iddo dorri ei glust chwith i ffwrdd, aethpwyd a van Goch o'i wirfodd i wallgofdy Saint-Paul-de-Mausole ar 8 Mai 1889. Roedd y gwallgofdy mewn hen fynachlog. Gwallgofdy i'r cyfoethog ydoedd, ac roedd yn hanner gwag pan gyrhaeddodd van Gogh. Golygai hyn ei fod e'n gallu cael ystafell wely ar yr ail lawr, a hefyd ystafell ar y llawr gwaelod i'w defnyddio fel stiwdio paentio. 

Yn ystod blwyddyn ei arhosiad bu'n beintiwr toraethog iawn, gan barhau. Yn ystod y cyfnod hwn, cynhyrchodd rai o beintiadau mwyaf adnabyddus ei yrfa, gan gynnwys y Gellesg o fis Mai 1889, sydd nawr yn Amgueddfa J. Paul Getty, a'r hunan-bortread o fis Medi 1889 ym Musée d'Orsay. Peintiwyd Y Noson Serennog yng nghanol mis Mehefin, yr un adeg ag ysgrifennodd at ei frawd Theo i ddweud iddo gwbwlhau astudiaeth newydd o wybren serennog.[1]

Y Peintiad

Er y peintiwyd Y Noson Serennog yn ystod y dydd yn stiwdio llawr gwaelod van Gogh, byddai'n anghywir honni y peintiwyd o'r cof. Ysgrifennodd van Gogh at ei frawd Theo tua 23 Mai 1889, ynglych yr olygfa honno, "Trwy'r ffenestr â bariau haearn, gallaf weld maes amgaeëdig yn llawn gwenith … ac uwchben, gyda'r bore, gwyliaf yr haul yn codi yn ei holl ogoniant."[2]

Darluniodd van Gogh yr olygfa ar adegau gwahanol y dydd a hefyd mewn ardymhyrau gwahanol, gan gynnwys y wawr, codiad y lleuad, dyddiau heulog, dyddiau cymylog, dyddiau gwyntog ac un dydd glawiog. Tra na chaniateid iddo baentio yn ei ystafell wely, roedd yn gallu gwneud brasluniau gydag inc neu lo coed. Yr elfen sy'n cysylltu'r holl beintiadau hyn ydy'r llinell groesgongl a ddaw o'r de, sy'n darlunio bryniau tonnog isel mynyddoedd yr Alpilles. Mewn 15 o'r 21 o fersiynau, gellir gweld cypreswydd tu hwnt i'r wal pell sy'n amgau'r maes gwenith. Defnyddiodd delescôp i weld yr olygfa mewn 6 o'r beintiadau hyn.

Dehongliadau

Er gwaethaf y nifer fawr o lythyrau a ysgrifennodd Van Gogh, ni ddywedodd lawer am Y Noson Serennog. Ar ôl cyhoeddi ei fod wedi paentio wybren serennog ym mis Mehefin, sôniodd am ei beintiad nesaf wrth ei frawd Theo naill ai ar, neu tua 20 Medi 1889, pan gynwyswyd e mewn rhestr o beintiadau yr oedd e'n mynd i'w danfon at ei frawd ym Mharis, gan gyfeirio ati fel "astudiaeth nos." Am y rhestr hon o beintiadau, ysgrifennodd, "Ar y cyfan yr unig bethau ynddi a ystyriaf i fod yn dda ydy y Maes Gwenith, y Mynydd, y Berllan, y Coed Olewydd gyda'r Bryniau Gleision, y Portread a'r Mynediad i'r Chwarel. Dydy'r gweddill ddim yn dweud unrhyw beth wrtha' i";[3] roedd "y gweddill"  yn cynnwys Y Noson Serennog. Pan benderfynodd beidio â danfon tri pheintiad er mwyn arbed costiau cludiant, Y Noson Serennog oedd un ohonynt. O'r diwedd, mewn llythyr at y paentiwr Émile Bernard o fis Tachwedd 1889, galwodd e'r peintiad yn "fethiant".

Dadleuodd Van Gogh gyda Bernard ac, yn enwedig, Paul Gauguin ynghylch a ddylid beintio golygfeydd naturiol, fel yr oedd yn well gyda Van Gogh, neu beintio yr hyn a elwir yn "haniaethau": peintiadau a geir yn yr ymennydd, neu de tête. Yn y llythyr at Bernard, edrychodd Van Gogh yn ôl ar y pryd pan oedd Gauguin yn byw gydag ef am naw wythnos yn ystod hydref a gaeaf y flwyddyn 1888: "Pan roedd Gauguin yn Arles, unwaith neu ddwy mi ganiatais i fy hun gamarweinio i beintio haniaethau, fel yr wyddost ti … ond ehudrwydd oedd hynny, f'annwyl ffrind, ac yn fuan fe ddeuir yn erbyn wal … Fodd bynnag, unwaith eto, caniatais i fy hun wneud sêr sy'n rhy fawr, ayyb, methiant arall, ac rwyf wedi cael digon o hynny."[4] Yma, mae Van Gogh yn cyfeirio at y gwibyrnau mynegiannol sy'n gorthrymu rhan uwch ganolog Y Noson Serennog.

Y darluniad Cypreswydd yn Noson Serennog, 1889.

Yn fuan ar ôl iddo gyrraedd yn Arles ym mis Chwefror 1888, ysgrifennodd Van Gogh at Theo, "Rwy' … angen noson serennog gyda cypreswydd neu – efallai maes o wenith aeddfed; mae 'na nosweithiau prydferth iawn yma."[5] Yn ystod yr un wythnos, ysgrifennodd at Bernard, "Noson serennog ydy rhywbeth y byddwn i'n hoffi ceisio ei gwneud, rhyw ddydd rwy'n mynd i geisio peintio dôl werdd ysgeiniedig â dannedd y llew."[6] Cymharodd e'r sêr â dotiau ar fap, ac meddyliodd fod, megis defnyddiwn ni drênau i deithio ar y ddaear, "mae'n rhaid inni ddefnyddio marwolaeth er mwyn cyrraedd seren".[7] Er yr oedd Van Gogh wedi'i ddidwyllo gan grefydd, mae'n debyg na chollodd ei gred mewn bywyd tragwyddol. Lleisiodd yr amwysedd hon mewn llythyr at Theo, wedi paentio Noson Serennog Dros y Rhôn, gan addef "angen anferth am, a ddylwn ynganu'r gair – am grefydd – felly mi af tu faes gyda'r nôs i baentio'r sêr".[8]

Ysgrifennodd am fodoli mewn dimensiwn arall ar ôl marwolaeth a chysylltodd y dimensiwn hwn gyda'r wybren nôs. "Byddai mor syml, ac byddai'n egluro cymaint o'r pethau ofnadwy mewn bywyd, sydd yn awr yn ein swyno a'n clwyfo cymaint, mae gan fywyd hemisffer arall, yn anweledig, wir, lle yr awn ni pan fyddwn yn marw."[9] "Gobaith sydd yn y sêr," ysgrifennodd, ond roedd e'n glou i fynegi bod "y ddaear yn blaned hefyd, ac o ganlyniad i hynny, yn seren, neu'n belen nefolaidd."[10] Dywedodd yn blwmp ac yn blaen nad oedd Y Noson Serennog yn "ddychweliad i'm syniadau crefyddol na rhamantus".[11]

Pan mae Van Gogh yn galw Y Noson Serennog yn fethiant am fod yn "haniaeth", mae e'n rhoi'r bai ar y ffaith ei fod e wedi paentio'r sêr yn rhy fawr.

Tarddiad

Ar ôl peidio ag ei ddanfon i Baris, danfonodd Van Gogh Y Noson Serennog at ei frawd ar 28 Medi 1889, gyda naw neu ddeg o beintiadau eraill. Bu farw Theo yn llai na chwe mis ar ôl i Vincent, ar 25 Ionawr 1891. Daeth gwidw Theo, Jo, yn ofalwr am gymyniad Van Gogh. Gwerthodd hi'r peintiad i'r bardd Julien Leclercq ym Mharis ym 1900, a werthodd e i Émile Schuffenecker, hen gyfaill Gauguin, ym 1901. Prynodd Jo y peintiad yn ôl oddi wrth Schuffenecker cyn ei werthu i Aleri Oldenzeel yn Rotterdam ym 1906. Rhwng 1906 a 1938, Georgette P. van Stolk o Rotterdam oedd perchennog y peintiad, tan iddo ei werthu i Paul Rosenburg o Baris ac Efrog Newydd. Trwy Rosenberg a gafodd y peintiad ei feddiannu gan Amgueddfa Celfyddyd Fodern, Efrog Newydd ym 1941.

Defnyddiau darlunio

Cyfeiriadau

  1. "Enfin j’ai un paysage avec des oliviers et aussi une nouvelle étude de ciel étoilé." Vincent Van Gogh: The Letters (Amgueddfa Van Gogh), llythyr 782 (tua 18 Mehefin 1889).
  2. "à travers la fenêtre barrée de fer j’apercois un carré de blé dans un enclos … au-dessus de laquelle le matin je vois le soleil se lever dans sa gloire." Vincent Van Gogh: The Letters (Amgueddfa Van Gogh), llythyr 776 (tua 23 Mai 1889).
  3. "En somme là-dedans je ne trouve un peu bien que le champ de blé, la montagne, le verger, les oliviers avec les collines bleues et le portrait et l’entrée de carriere, et le reste ne me dit rien parceque cela manque de volonté personelle, de lignes senties." Vincent Van Gogh: The Letters (Amgueddfa Van Gogh), llythyr 805 (tua 20 Medi 1889).
  4. "Lorsque Gauguin était à Arles, comme tu le sais une ou deux fois je me suis laissé aller à une abstraction, … Mais c’est terrain enchanté ça – mon bon – et vite on se trouve devant un mur. … Cependant encore une fois je me laisse aller à faire des étoiles trop grande &c., nouvel echec et j’en ai assez." Vincent Van Gogh: The Letters (Amgueddfa Van Gogh), llythyr 822 (tua 26 Tachwedd 1889).
  5. "Il me faut aussi une nuit étoilée avec des Cyprès ou – peutetre au-dessus d’un champ de blé mûr, il y a des nuits fort belles ici." Vincent Van Gogh: The Letters (Amgueddfa Van Gogh), llythyr 594 (9 Ebrill 1888).
  6. "Un ciel étoilé par exemple, tiens – c’est une chôse que je voudrais essayer à faire de même que le jour j’essayerai à peindre une verte prairie etoilée de pissenlits." Vincent Van Gogh: The Letters (Amgueddfa Van Gogh), llythyr 596 (12 Ebrill 1888).
  7. "Si nous prenons le train pour nous rendre à Tarascon ou à Rouen nous prenons la mort pour aller dans une étoile." Vincent Van Gogh: The Letters (Amgueddfa Van Gogh), llythyr 638 (9 neu 10 Gorffennaf 1888).
  8. "Cela n’empêche que j’ai un besoin terrible de, dirai je le mot – de religion – alors je vais la nuit dehors pour peindre les étoiles …" Vincent Van Gogh: The Letters (Amgueddfa Van Gogh), llythyr 691 (29Medi 1888).
  9. "Ce serait si simple et expliquerait si bien les atrocites de la vie qui maintenant nous étonnent et nous navrent tant, si la vie avait encore un second hémisphère, invisible il est vrai mais où l’on aborde en expirant." Vincent Van Gogh: The Letters (Amgueddfa Van Gogh), llythyr 652 (31 Gorffennaf 1888).
  10. "Là il y a de l’espoir mais – .... cet espoir est dans les étoiles. … Mais n’oublions pas que la terre est également une planète, par conséquent une étoile ou globe céleste." Vincent Van Gogh: The Letters (Amgueddfa Van Gogh), llythyr 642 (15 Gorffennaf 1888).
  11. "Ce n’est pas un retour au romantique ou à des idees religieuses, non" Vincent Van Gogh: The Letters (Amgueddfa Van Gogh), llythyr 782 (tua 18 Mehefin 1889).