Y môr sydd rhwng Iwerddon, Cymru a Lloegr (Cernyw, Dyfnaint ac Ynysoedd Scilly) i'r de Sianel San Siôr yw'r Môr Celtaidd. Cafodd ei enwi gan weithwyr olew.
Yn chwedloniaeth Pedair Cainc y Mabinogi dywedir i'r cawr Bendigeidfran gerdded ar draws y môr rhwng Cymru a'r Iwerddon er mwyn achub ei chwaer, Branwen ferch Llŷr.
Bydd cystadlaethau rhwyfo ar draws y Môr Celtaidd a cynhelir Ras Rwyfo'r Her Geltaidd bob yn ail flwyddyn wrth i rwyfwyr o Gymru, Iwerddon a thu hwnt rwyfo o Arklow yn Iwerddon i Aberystwyth yng Nghymru.