Erthygl am y nofel wyddonias yw hon; am albwm Gwenno Saunders gweler yma.
Nofelwyddonias neu ffug-wyddonol gan Owain Owain yw'r Dydd Olaf a gyhoeddwyd yn 1976 gan Wasg Gomer, Llandysul. Cafodd ei hailargraffu yn 2021 yn Gymraeg, a chafwyd addasiad Saesneg a Phwyleg yn 2024. Ysgrifennwyd y nofel yn 1968 ac 1969 pan oedd yr awdur yn byw yn Llanuwchllyn a danfonwyd hi i gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Rhydaman yn 1970.
Rhyddhawyd albwm o gerddi a seiliwyd ar gynnwys y nofel gan Gwenno Saunders ar label annibynnol Peski Records yn Hydref 2014 a gwerthwyd y cyfan. Cafodd ei ail-ryddhau ledled y byd yn 2015 gan Heavenly Recordings.
Mae un o'r prif gymeriadau'n berson du, galluog, sy'n anarferol iawn i lyfr o'r cyfnod hwn.
Dywedodd y beirniad llenyddol Pennar Davies am y nofel (gweler y broliant) Ni welwyd dim byd tebyg i'r llyfr hwn (Y Dydd Olaf) yn ein hiaith o'r blaen, na dim byd hollol debyg mewn unrhyw iaith. Llawenhewn fod y math yma o ddisgleirdeb yn bosibl yn y Gymraeg."[1] Mewn adolygiad o'r gyfrol yn 2014 dywedodd Miriam Elin Jones, 'I ddweud y gwir, mae rhagymadrodd Pennar Davies i’r nofel hon yn dweud y cwbl. Dyma nofel wreiddiol yn y Gymraeg, a nofel fydd yn eich syfrdanu... clasur Cymraeg, heb os.' [2] Mewn cyfweliad gyda Gwenno Saunders a mab Owain, sef Robin Llwyd ab Owain dywedwyd i'r gwaith gael ei ysgrifennu yn 1967/8 ond na chyhoeddwyd y gwaith tan i'r awdur ddanfon y proflenni at Pennar Davies, wedi methu cael unrhyw wasg i gyhoeddi'r nofel. 9 mlynedd yn ddiweddarach, yn 1976, wedi derbyn broliant Pennar Davies, cyhoeddwyd y nofel.[3]
Yn 2020 fe'i cyfieithwyd i'r Gernyweg gan yr awdur Sam Brown[5], fersiwn ar ffurf PDF i'w lawrlwytho am ddim.
Yng Ngorffennaf 2021 cafwyd ailargraffiad Cymraeg gan Wasg y Bwthyn, wedi i'r llyfr fod allan o brint ers bron i 50 mlynedd.[6][7]
Yn 2024 cyhoeddwyd fersiwn Saesneg gan Parthian Books, a gyfieithiad gan Emyr Wallace Humphreys. Yn yr un flwyddyn cyhoeddwyd fersiwn Pwyleg o'r Dydd Olaf yn 2024 gan Melin Bapur Books ac Olga Geppert-Biernat, fersiwn a gyfieithwyd gan Marta Listewnik yn 2014.
Plot
Mae'r stori'n ymdrin a bachgen o'r enw Marc a phytiau o'i ddyddiaduron a llythyrau ato, sy'n nodi gafael y 'Brawd Mawr' arno ef, a llithra bob yn hyn a hyn wedi ei gyflyru i iaith synthetig y Frawdoliaeth: ‘Fratolish Hiang Perpeski'. mae hyn yn brawf o effeithiolrwydd y cyflyru y ceisia ddianc rhagddo - dianc oddi wrth y dyfodol dystopaidd. Ymgais sydd yma gan yr awdur i'n rhybuddio o'r dull tawel mae'r 'Ddelwedd Fawr' yn cyflyru ei dinasyddion, drwy eu moldio'n un corff totalitaraidd, unffurf, neu fel y dywed Owain dro ar ôl tro yn ei gerddi - y 'llwydni llwyd'.
Ceir yma hefyd stori garu rhwng y cymeriadau, gyda rhai'n derbyn pliwtoniwm i wrth-weithio'n erbyn y cyflyru, tra bod eraill yn ymgorffori'n rhan o'r Frawdoliaeth, gan gynnwys y dyn Cwansa, sy'n troi o fod yn lledmerydd dros hawliau lleiafrifoedd i fod yn eu rheoli. Isthema arall yw a ellir cyfiawnhau gweithred niweidiol, negyddol fel aberthu unigolyn er mwyn achub dynoliaeth. Penderfyniad Marc yw peidio a gwneud hynny, a thry'r byd i ddwylo'r Frawdoliaeth.
Ymhen peth amser, daw oes y robotiaid i ben, o bosib oherwydd rhyfel niwclear, ac o'r ychydig rai sy'n weddill, gwelid oes newydd, a'r unig destun neu wybodaeth sydd wedi goroesi yw dyddiaduron a llythyrau Marc, a guddiodd mewn cod mewn iaith fechan (y Gymraeg) nad oedd yr Uchel Gyfrifydd yn ei deall. Gwnaed hyn gyda chymorth rhyw gant o ffrindiau oedd wedi derbyn y pliwtoniwm, ac Alffa-Omega 'pwy bynnag (neu beth bynnag) yw hwnnw'.
Proffwydo
Mae'r nofel yn rhagweld nifer o bethau sydd wedi cael eu gwireddu ers 1967-8, gan gynnwys:
gwartheg yn cael eu cadw i fewn drwy'r flwyddyn, heb weld porfa.
cynaeafu DNA dyn a'i impio i anifail, robot neu greadur sy'n gyfuniad o'r ddau
gwair a choed plastig
robotiaid yn cael eu defnyddio i bwrpas rhyw
na ellir gwahaniaethu rhwng robot a dyn
pobl di-ryw / dirywiaid, di-fronnau nad ydynt yn geni plant
cuddio cod cyfriadurol drwy ei roi mewn 'is-is-is ffeil', mewn iaith gyfrin ayb
gwladwriaethau'n dileu'r syniad o 'gyfoeth yr amrywiaeth' drwy gyflyru eu dinasyddion.
Adwaith i'r gyfrol
Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman, 1970
Danfonwyd y nofel i gystadleuaeth y Fedal Ryddiaeth dan y ffugenw Caethwas; gw. Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman, 1970. Ataliwyd y wobr. Dywedodd y tri beirniad, Rhiannon Davies Jones, Alun Llywelyn-Williams a Thomas Parry:
Dyma waith cymhleth ac uchelgeisiol. sef cip ar y dyfodol ar ffurf dyddiaduron gan ŵr sy'n mynd yn aberth i'r drefn newydd, thema feiddgar a gwreiddiol yn Gymraeg. (tud. 102)...Datgelir pethau arswydus a phur ddigalon. Y mae gan yr awdur ddychymyg i amgyffred cymeriadau a dyfeisgarwch i greu amgylchfyd sy'n dychryn. Cyfrodeddwyd dogfennau o'r presennol a'r dyfodol... ac mae gorfod symud yn ôl ac ymlaen yn peri straen feddyliol ar y darllenydd.
Arall
Mewn adolygiad o'r addasiad Saesneg gan Emyr Humphreys, dywedodd y beirniad llenyddol John Gower.[8]
Gosododd y Dr Miriam Elin Jones y nofel yn gyntaf o'r holl waith ffugwyddonol a sgwennwyd erioed yn y Gymraeg. Nododd, "Dyma nofel wreiddiol yn y Gymraeg, a nofel fydd yn eich syfrdanu. Clasur Cymraeg, heb os".[9]
Yn ôl yr Athro Gareth Ffowc Roberts yn Mae Pawb yn Cyfrif: "Un o ryfeddodau llenyddiaeth Gymraeg yw cyfrol Owain Owain Y Dydd Olaf a ysgrifennwyd 1966-8; llyfr ffug-wyddonol sy'n rhagweld dylanwad cyfrifiaduron ar ein byd a phwysigrwydd dal ein gafael ar y meddwl rhydd annibynnol."
Cyhoeddodd Dr Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Arlein S4, "Does dim un nofel Gymraeg wedi trafod effeithiau cymdeithasol datblygiad technoleg mewn ffordd mor aeddfed a gwreiddiol, a hynny mor bell cyn i'r effeithiau hynny ddechrau ein taro ni."
"Mae'n nofel fer, gweddol hawdd ei deall. Byddai disgyblion ysgol yn gallu ei chymharu a The Terminator, Blade Runner neu Westworld er enghraifft." medd Elan Gug Muse; Golwg; 10 Medi 2020.
Mewn cyfweliad yn Golwg ac ar wefan WelshNot yn 2014 dywedodd y gantores Gwenno Saunders, "Darllenais lyfr fantastig y llynedd - Y Dydd Olaf gan wyddonydd a drodd yn nofelydd, Owain Owain. Mae am bobl yn troi'n beiriannau rhywdro yn y dyfodol a chofnodir hynny mewn dyddiadur gan y prif gymeriad - yn Gymraeg lle bod y peiriannau'n deall.[10] Rhyddhawyd albwm ganddi hi o'r un enw (Y Dydd Olaf) ar label Peski records, am thema'r nofel.[11][12]
↑Gwefan www.welshnot.com;I read a fantastic book last year called ‘Y Dydd Olaf’ (The Last Day) by a scientist turned novelist called Owain Owain. It’s about people being turned into machines sometime in the future and the main character writes a diary documenting it all in Welsh so the machines can’t understand it. I liked the idea of a language being able to protect you, and the blur of where a human being ends and a machine/computer begins.
↑http://fiverosespress.net/;Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant WaybackTaking its cue, and title, from Owain Owain’s 1976 novel about a dystopian future where the robots have taken over and are busily turning the human race into clones through the use of medication, Y DYDD OLAF blends big themes (including patriarchal society, government-funded media propaganda, cultural control, technology, isolation and the importance of, and threat to minority languages), great tunes, and a real sense of revolution to produce a powerful, politically-charged concept album.