XXL (clwb)

XXL
MathLGBT nightclub Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolLlundain
Sefydlwyd
  • 2000 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.507692°N 0.104037°W Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganMark Ames Edit this on Wikidata

Clwb nos hoyw yn Llundain yw XXL sy'n bennaf yn darparu ar gyfer yr is-grŵp hoyw'r eirth.[1][2][3] Sefydlwyd y clwb nôl yn 2000 gan Mark Ames â'i bartner ar y pryd, David Dindol. Bu iddynt wahanu yn 2005, ac yn dilyn hyn fe brynodd Marc gyfran ei gyn-bartner. XXL yw'r lleoliad mwyaf ymroddedig yr "eirth"  yn y Deyrnas Unedig a'r byd. Nid yn unig yw'n ddisgo wythnosol hynnaf sîn yr eirth, ond hefyd mae'n ddisgo wythnosol hynnaf Llundain, heb golli noson mewn tros 16 mlynedd.

Lleoliad

Lleolir XXL yn Southwark, ar gornel Stryd Southwark a Ffordd Blackfriars. Adnabyddir y lleoliad presennol fel Pulse tra oedd y lleoliad blaenorol (ar yr un stryd) o'r enw Arcadia. Mae'r ddau leoliad yn cynnwys nifer o fŵau rheilffordd.

Yn dilyn darganfod nam ystrwythol ym mŵa'r rheilffordd yn Arcadia, rhaid oedd datgan y lle'n anniogel a rhaid oedd i XXL symud i'r lleoliad newydd, sef Pulse ym mis Mawrth 2012 -  un o leoliadau adloniant mwyaf y brif ddinas a ddatblygwyd a'u addaswyd gan Ames a'i dîm[4]

Hanes

Mae gwefan XXL yn cynnwys hanes y clwb ers ei lansio yn 2000. Teimlodd Mark Ames yn siomedig gyda'r diffyg darpariaeth adloniant ar gyfer Cymuned Eirth Llundain y tu allan i un bar yn Soho.

Yn 2003, crëwyd Bear Necessities gan XXL yn Llundain a elwir erbyn hyn yn "Pride Eirth Llundain XXL", dathliad penwythnos gyfan o bopeth "mawr, hoyw a blewog" gyda digwyddiadau ledled y wlad. Flwyddyn yn ddiweddarach datblygwyd hyn i fod yn "Pride Eirth Llundain". Yn 2004 ehangwyd yr ŵyl i gynnwys y gymuned lledr i fod yn "Pride Eirth a Lledr 2006". Mae'r ddau is-ddiwylliant yn gorgyffwrdd ac mae nifer o ffetiswyr lledr yn ymweld â XXL.

Mae XXL hefyd yn gweithredu'n ryngwladol yn Ewrop a'r UDA yn ogystal â nosweithiau misol yn ail-ddinas y DdU sef Birmingham, a digwyddiadau eraill hefyd. Yn 2014 lansiwyd digwyddiad misol gan XXL yng Nglasgow.

Mae polau piniwn mewn cylchgronau megis Gay Times, Pink Paper a Boyz yn rheolaidd yn rhoi XXL ymysg y ddau glwb nos gora'n Llundain.[angen ffynhonnell] XXL  hefyd oedd noddwr teitl Cwpan Bingham (2006) yn Efrog Newydd.[angen ffynhonnell] Yn 2007 bu i'r clwb ehangu ac amrywio'i brand drwy lansio nosweithiau newydd, gan ymestyn ei apêl y tu hwnt i'r gynulleidfa graidd.[angen ffynhonnell] Yn 2009 daeth Ames yn hyrwyddwr hoyw'r  flwyddyn yn ôl darllenwyr cylchgrawn Boyz yn Llundain ac a enwyd fel eicon hoyw mewn pol piniwn yng nghylchgrawn 'QX' Llundain.[angen ffynhonnell] Yng Nhwobrau Boyz 2017, pleidleiswyd XXL  yn y clwb gyda, gyda dau o DJ's XXL (Joe Egg a David Robson) yn ymddangos yn y 10 Uchaf DJ mwyaf poblogaidd.

Ar hyn o bryd mae pedwar DJ preswyl yn XXL, sef: Alex Logan (o 2004), Joe Egg (o 2007), David Robson (o 2015 ymlaen) a Paul Morrell (o 2016 ymlaen). Mae Logan a Morrell yn chwarae 'contemporary house' a dawns cymysg gyda llwythol ymylol yn y brif ystafell; o bryd i'w gilydd ymunai  Mark Ames ei hun. Chwareir Egg a Robson set eclectig o gerddoriaeth cyfoes a phop retro, roc, indi, 'soul', R&B, bashment a disgo yn yr ystafell llai, a elwir yn 'The Fur Lounge'.

Yn 2015, cyhoeddwyd bod DJ gwadd rheolaidd yn chwarae'n y brif ystafell gan gylchdroi ar sail fisol rhwng sesiynau wythnosol y trigolion. Y DJs yma ar y funud yw'r Hoxton Whores (a ddechreuodd eu preswylfa ar 11 Gorffennaf 2015), Moto Blanco (dechreuodd Haf 2015), Sin Morera (gyntaf yn 2017), a Pagano, a ymddangosodd gyntaf yn Haf 2016.[5]

Beirniadaethau

Ym Mehefin 2010 adroddwyd am sylwadau ysgrifenedig gan Mark Ames ar ei ddudalen Facebook lle dywedodd y byddai'n boicotio busnesau Mwslemaidd.[6] Fe gyhoeddwyd ymddiheuriad diamod.[7]

Cyfeiriadau

  1. Jason Cochran (5 Chwefror 2009). Pauline Frommer's London: Spend Less, See More. John Wiley & Sons. t. 320. ISBN 978-0-470-46511-0.
  2. Editors of Time Out (2 Ionawr 2014). Time Out London. Time Out Guides Limited. t. 581. ISBN 978-1-84670-426-0.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  3. Lonely Planet; Emilie Filou; Steve Fallon; Damian Harper; Vesna Maric (1 Hydref 2013). Lonely Planet London. Lonely Planet Publications. t. 285. ISBN 978-1-74321-833-4.
  4. "XXL club moves home". Out in the City. 9 Mawrth 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-10. Cyrchwyd 31 Hydref 2012.
  5. "QX Gay London Issue 1059". Interview with Mark Ames. 9 Mehefin 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-21. Cyrchwyd 2018-11-07.
  6. Lloyd, Peter; Reid-Smith, Tris (30 Mehefin 2010). "EXCLUSIVE: XXL owner Mark Ames slammed for Muslim boycott". PinkPaper.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Gorffennaf 2011.
  7. Lloyd, Peter (1 Gorffennaf 2010). "YOU READ IT HERE FIRST: XXL's Mark Ames makes heartfelt apology". PinkPaper.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Gorffennaf 2011.

Dolenni allanol