Dinas a phorthladd yng ngogledd yr Almaen yw Wismar. Saif yn rhanbarth Mecklenburg-Vorpommern ac roedd y boblogaeth yn 45,182 yn 2000.
Roedd Wismar yn aelog o'r Cynghrair Hanseataidd ac mae'n dangos pensaerniaeth nodweddiadol y Cynghrair. Sefydlwys Wismar rhwng 1226 a 1229 gan ymfudwyr o Lübeck dan arweiniad Heinrich Borwin, a chynlluniwyd y ddinas yn ofalus o'r dechrau.
Cipiwyd Wismar gan Sweden yn 1631, a bu'n eiddo i Sweden hyd 1803. Dim ond yn 1903 y daeth yn eiddo i'r Almaen. Ar 7 Mai 1945, cyfarfu byddinoedd yr Unol Daleithiau a Phrydain a'r Fyddin Goch yma. Daeth Wismar yn rhan o Ddwyrain yr Almaen. Dynodwyd Wismar yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 2002.