William Vaughan |
---|
Ganwyd | 1575 |
---|
Bu farw | 1641 |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | bardd |
---|
Tad | Walter Vaughan |
---|
- Erthygl am y ffilanthropydd a'r llenor yw hon. Gweler hefyd William Vaughan (AS) (1707-75).
Roedd Syr William Vaughan (1575 - 1641) yn ŵr bonheddig a llenor o'r Gelli-aur, Sir Gaerfyrddin, a geisiodd sefydlu gwladfa Gymreig yn yr Amerig.
Bywgraffiad
Roedd yn fab i Syr Walter Vaughan (m. 1598). Cafodd ei addysg yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Ewythr iddo, Griffith Lloyd, oedd prifathro'r coleg ar y pryd. Yn y flwyddyn 1616 cafodd ei apwyntio'n siryf Sir Gâr.
Ar ôl gweld cymaint oedd y tlodion yn dioddef yn ei sir enedigol a chyn lleied o obaith oedd iddynt wella eu sefyllfa, penderfynodd Vaughan geisio sefydlu gwladfa iddynt. Prynodd barsel o dir ar orynys Avalon yn Newfoundland (yn nwyrain Canada heddiw) gan y London and Bristol Company yn 1616 a threfnodd, ar ei draul ei hun, i anfon ymsefydlwyr yno. Aeth y criw cyntaf allan yn 1617 ac ymsefydlasant ar safle tref Renews heddiw. Rhoddwyd yr enw Cambriol ar y wladfa newydd. Ond methiant fu'r wladfa o fewn ugain mlynedd, yn bennaf oherwydd yr hinsawdd a oedd yn gwneud hi'n anodd i amaethu'n llwyddiannus yno a diffyg arweinyddiaeth ac offer amaethu.
Roedd yn frwd o blaid y ddinasyddiaeth Brydeinig gyffredin a ddaeth yn sgil y Ddeddf Uno. 'God give us grace to dwell together without enmity, without detraction', meddai.
Ymddiddorai William Vaughan mewn llenyddiaeth a chyhoeddodd rai llyfrau yn Saesneg. Yn eu plith ceir cyfrol o gerddi yn Lladin a Saesneg, addasiad o hanes Iason a'r Cnu Euraidd, a phamffledi sy'n dadlau achos y wladfa newydd. Derbyniodd ei waith gryn glod ar y pryd. Yn ôl y cofnod yn Athenae Oxoniensis (1691) 'he went beyond most men of his time for Latin especially, and English poetry.' Ar ôl i fenter Cambriol ddod i ben cyhoeddodd Vaughan ddau waith defosiynol, sef The Church from the time of our Saviour to 1640 a The Soules Exercise.
Gwnaethai Vaughan ei gartref yn Nhorycoed, Llangyndeyrn ar ôl priodi Elizabeth, merch ac etifedd David Llwyd ap Robert. Fel 'Terra Coed' y cyfeiriai Vaughan at y plasty yng Nghwm Gwendraeth Fach. Daeth y briodas i ben dan amgylchiadau trychinebus pan laddwyd ei wraig wrth i'w cartref gael ei daro gan fellten ym mis Ionawr 1608. Ailbriododd gydag Ann, merch ac etifedd John Christmas o Colchester rywbryd rhwng 1615 a 1617.
Bu farw William Vaughan yn Nhorycoed Fawr ym mis Awst 1641. Yn ei ewyllys gadawodd ddeg swllt yn gymynrodd i dlodion y plwyf a rhoddodd gyfarwyddiadau ar gyfer ei gladdu 'without vaine pomp in the Churchyard of Llangendeirne' .
Nid yw lleoliad ei fedd yn hysbys, ond ar 31 Hydref, 1987 dadorchuddiwyd cofeb iddo gan George Noakes, Archesgob Cymru ar y pryd, mewn gwasanaeth yn eglwys Llangyndeyrn.
Llyfryddiaeth
- Golden Grove (1600)
- The Golden Fleece (1626)
- The Church Militant (1640). Cerddi.
- The Church from the time of our Saviour to 1640 (1641)
- The Soules Exercise (1641)
Ffynhonnell
W. Hill Morris, Sir William Vaughan 1577-1641 (pamffled a gyhoeddwyd i gyd-fynd â dadorchuddio'r gofeb i Vaughan yn 1987.)