Roedd William Tudor Howell (19 Hydref 1862 – 3 Hydref 1911) yn fargyfreithiwr Cymreig a gwleidydd Ceidwadol a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistref Dinbych rhwng 1895 a 1900.[1]
Ganwyd Howell ym Mhwllheli yn fab i'r Gwir Barchedig David Howell, (Llawdden), Deon Tŷ Ddewi (Ficer Pwllheli ar adeg geni ei fab) ac Anne Powell, Pencoed ei wraig.[2]
Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Wrecsam, Ysgol yr Amwythig a Choleg Newydd, Rhydychen lle raddiodd BA ym 1885.
Astudiodd y gyfraith yn y Deml Ganol gan gael ei alw i'r Bar ym 1887. Fe fu'n gweithio mewn siambrau yn Llundain yn gwasanaethu Cylchdaith Cyfreithiol De Cymru.[3]
Roedd yn aelod amlwg o Gymry Llundain ei ddydd, yn ddarlithydd poblogaidd yng nghyfarfodydd y Cymmrodorion ac yn un o sylfaenwyr Pwyllgor Cymru Llundain i achub yr Eglwys Gymreig, mudiad a oedd yn gwrthwynebu'r ymgyrch i ddatgysylltu Eglwys Lloegr yng Nghymru.
Ar ymddiswyddiad y cyn AS Ceidwadol George Thomas Kenyon o'r senedd yn etholiad Cyffredinol 1895 safodd Howell fel yr ymgeisydd Ceidwadol yn etholaeth Bwrdeistref Dinbych, erbyn etholiad cyffredinol 1900 penderfynodd Kenyon bod o eisiau ei sedd y nôl a dad ddewiswyd Howell gan y Ceidwadwyr lleol.
Dychwelodd Howell i'w gwaith fel bargyfreithiwr ond mae ei hanes yn niwlog wedi hynny. Yng nghyfrifiad 1901[4] mae o'n byw yn Brighton gyda'i wraig Louise May, dynes 30 oed a anwyd yn Nice Ffrainc. Yn ôl cyfrifiad 1911 [5] mae o'n dal i fyw yn Brighton ond ar wahan i'w wraig ond mae'n nodi ei bod wedi bod yn briod ers 1900 ac yr oedd ganddo 2 blentyn. Ychydig fisoedd ar ôl y cyfrifiad ceir cofnod yn Calendr Profiant Cenedlaethol Lloegr a Chymru ei fod wedi marw yn Jesmond Ranch, Kooteney British Columbia Canada.[6] Claddwyd ei weddillion ym mynwent Nelson BC.[7]
Cyfeiriadau