Mathemategydd ac offeiriad Anglicanaidd o Loegr oedd William Oughtred (5 Mawrth 1574 – 30 Mehefin 1660). Fe ddyfeisiodd y llithriwl ac ef oedd y cyntaf i ddefnyddio'r arwydd × i gynrychioli lluosi.[1]
Ganwyd yn Eton, Swydd Buckingham, a chafodd ei addysgu yn Ysgol Eton a Choleg y Brenin, Caergrawnt. Cafodd ei ordeinio'n offeiriad ym 1603 a'i benodi'n ficer yn Shalford, Surrey. Roedd yn rheithor Albury, Surrey, am hanner canrif o 1610 hyd ei farwolaeth yn 86 oed.
Roedd Oughtred yn diwtor i nifer o fathemategwyr a gwneuthurwyr offer, gan gynnwys John Wallis, John Pell, a Seth Ward. Ysgrifennodd lythyrau at fathemategwyr Ffrengig ac Eidalaidd er mwyn iddo gyd-gerdded â'r ymchwil newydd a chyhoeddi'r diweddaraf i'w gydwladwyr. Cyhoeddodd lawlyfr byr, y Clavis Mathematicae, ym 1631. Cyflwynodd sawl arwydd mathemategol yn y gwaith hwn, a defnyddir dau ohonynt hyd heddiw: y symbol lluosi (×) a'r symbol cymhareb (::).
Dyluniodd Oughtred y llithriwl gylchol yn y 1620au, gan weithio ar y raddfa logarithmig a ddyfeisiwyd gan Edmund Gunter. Ym 1630, cyhoeddwyd pamffled gan Richard Delamain, un o gyn-ddisgyblion Oughtred, yn honni taw Delamain oedd dyfeisydd y llithriwl gylchol. Ceisiodd Oughtred amddiffyn ei enw a'i hawl yn ei destun Circles of Proportion and the Horizontal Instrument (1632).
Cyfeiriadau