William Frost

William Frost
Ganwyd28 Rhagfyr 1846 Edit this on Wikidata
Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
Bu farw25 Chwefror 1891 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethtelynor Edit this on Wikidata

Roedd William Frederick Frost (28 Rhagfyr 184625 Chwefror 1891) yn delynor Cymreig.[1]

Cefndir

Ganwyd Frost ym Merthyr Tudfil yn blentyn i William Frost a Sarah ei wraig. Roedd y tad yn adnabyddus fel "y telynor dall", wedi iddo golli ei olwg trwy ddamwain pwll glo pan oedd yn blentyn. Dysgodd William Frost iau i ganu'r delyn gan ei dad.

Gyrfa

Bu farw William Frost yr hynaf pan oedd ei fab tua 15 mlwydd oed.[2] Er mwyn sicrhau incwm i'w deulu dechreuodd William iau canu'r delyn mewn tafarnau. Cafodd ei logi gan dafarn y Prince of Wales, Dowlais fel telynor preswyl ar ddwy noson pob wythnos. Bu'n fuddugol yng nghystadleuaeth y delyn yn eisteddfod Merthyr ym 1859. Enillodd ysgoloriaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe ym 1863 a alluogodd i gael gwersi gan Llewelyn Williams (‘Pencerdd y De’). Yn Eisteddfod Caer 1866 enillodd cystadlaethau'r delyn pedalau a'r delyn deires gan gael telynau yn wobr.[3]

Wedi iddo briodi symudodd i Gaerdydd i fod yn athro cerdd gan gael ei gyflogi gan rhai o fawrion y ddinas, gan gynnwys teulu Arglwydd Aberdâr.

Bu'n feirniad rheolaidd ar gystadlaethau'r delyn mewn Eisteddfodau lleol a chenedlaethol gan ddefnyddio'r enw eisteddfodol Alawydd y Dyffryn. Cyfansoddodd nifer o alawon gan gynnwys "Hen Gymru Fynyddig," "Tra'n Rhodio'r Ddol"," Annwyl yw Gwalia, fy Ngwlad" a "Hoff Fryniau fy Ngwlad".[4]

Teulu

Priododd Sarah Gedrych merch William Gedrych, ffermwr ym 1867 cawsant 3 o blant. Roedd Sarah yn bianydd dawnus a bu hi a'i gŵr yn cynnal cyngherddau gyda'i gilydd.

Marwolaeth

Ers yn ifanc bu Frost yn byw efo epilepsi gan gael ffitiau yn achlysurol. Bu farw o ganlyniad i ffit epileptig yn ei gartref yng Nghaerdydd ym 1891 yn 44 mlwydd oed.[5]

Cyfeiriadau