Wilhelm Dilthey |
---|
|
Ganwyd | Wilhelm Christian Ludwig Dilthey 19 Tachwedd 1833 Biebrich |
---|
Bu farw | 1 Hydref 1911 Seis am Schlern |
---|
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prwsia |
---|
Addysg | Doctor of Sciences |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | athronydd, hanesydd, seicolegydd, diwinydd, addysgwr, cymdeithasegydd, academydd, beirniad llenyddol, athro |
---|
Cyflogwr | |
---|
Prif ddylanwad | Immanuel Kant, Friedrich Schleiermacher, Georg Hegel, John Stuart Mill |
---|
Mudiad | athroniaeth y Gorllewin |
---|
Priod | Katharina Dilthey |
---|
Plant | Clara Misch |
---|
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf |
---|
Athronydd o'r Almaen oedd Wilhelm Dilthey (19 Tachwedd 1833 – 1 Hydref 1911) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau pwysig at fethodoleg y dyniaethau a'r gwyddorau dynol eraill.
Bywyd cynnar ac addysg
Ganed Wilhelm Dilthey ar 19 Tachwedd 1833 yn Biebrich, ger Wiesbaden, Nassau, yng Nghydffederasiwn yr Almaen. Diwinydd yn yr Eglwys Ddiwygiedig oedd ei dad. Mynychodd yr ysgol ramadeg yn Wiesbaden cyn iddo astudio diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Heidelberg. Symudodd i Brifysgol Berlin a newidiodd ei gwrs i athroniaeth. Gweithiodd am gyfnod fel athro mewn ysgolion uwchradd Berlin, ond ymhen fawr o dro rhoes y gorau i hynny a chanolbwyntiodd yn gyfan gwbl ar ei astudiaethau. Trodd ei sylw at sawl gwahanol bwnc, gan gynnwys Cristnogaeth foreol, hanes athroniaeth, llenyddiaeth, a cherddoriaeth, a dilynodd y newyddion diweddaraf o ddatblygiadau a darganfyddiadau'r gwyddorau dynol empiraidd: cymdeithaseg, ethnoleg, seicoleg, a ffisioleg. Ysgrifennodd Dilthey gannoedd o adolygiadau a thraethodau yn ystod ei ugeiniau, sydd yn dystiolaeth o'i ddiddordebau eang a'i gynhyrchiant egnïol. Wedi iddo dderbyn ei ddoethuriaeth a'i gymhwyster ddarlithio o Brifysgol Berlin ym 1864.[1]
Gyrfa academaidd
Penodwyd yn athro gan Brifysgol Basel ym 1866, gan Brifysgol Kiel ym 1868, a chan Brifysgol Breslau ym 1871. Fe olynodd R. H. Lotze ym Mhrifysgol Berlin, a bu yn y swydd honno am weddill ei oes.[1]
Diwedd ei oes
Bu farw Wilhelm Dilthey yn 77 oed ar 1 Hydref 1911 yn Seis am Schlern, De Tyrol, Awstria-Hwngari (bellach yn nhalaith Bolzano, yr Eidal).[1]
Llyfryddiaeth
- Einleitung in die Geisteswissenschaften (1883)
- Ideen über eine beschreibende und zergliedernde Psychologie (1894)
- Der Aufbau der geschichtlichen Welt in den Geisteswissenschaften (1910)
Cyfeiriadau