Nofel a ysgrifennwyd gan Compton Mackenzie, a gyhoeddwyd ym 1947, yw Whisky Galore.[1] Fe'i haddaswyd ar gyfer y sinema o dan y teitl Whisky Galore! ym 1949 [2] ac eto yn 2016.[3]
Crynodeb Plot
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mae'r llong cargo, yr SS Cabinet Minister yn cael ei dryllio oddi ar grŵp ffuglennol o ynysoedd yr Alban — Todday Fawr a Todday Fychan— gyda hanner can mil o gasys wisgi ar fwrdd y llong. Oherwydd dogni amser rhyfel, roedd yr ynyswyr sychedig bron â rhedeg allan o'u gwirod cenedlaethol ac yn gweld hyn fel rhodd annisgwyl gan ffawd. Maen nhw'n llwyddo i achub cannoedd o'r casys cyn i'r llong suddo. Ond nid tasg syml sydd yn eu wynebu. Rhaid iddynt rwystro ymdrechion yr awdurdodau i atafaelu'r gwirod, yn enwedig gan Gapten y Gwarchodlu Cartref cyfeiliornus, rhwysgfawr Paul Waggett. Mae brwydr chwerthinllyd o chware fel cath a llygoden yn dilyn.
Er bod y llongddrylliad a’r pranciau i gadw gafael ar y wisgi yn ganolbwynt i'r stori, mae yna lawer o fanylion cefndir hefyd am fywyd ar Ynysoedd Allanol Heledd, gan gynnwys y gwrthdaro diwylliant rhwng ynys Brotestannaidd Todday Fawr ac ynys Gatholig Todday Fychan. (Seiliodd Mackenzie ddaearyddiaeth yr ynysoedd hyn ar Barraigh ac Eirisgeidh, er bod y ddwy ynys yn rhai Catholig yn y byd go iawn). Mae yna nifer o is-blotiau, ee dau gwpl sy'n bwriadu priodi.
Mae rhyddiaith Mackenzie yn cyfleu acenion amrywiol yr ardal ac mae hefyd yn cynnwys llawer o'r Aeleg cyffredin a oedd yn cael ei defnyddio ar y pryd. Mae'r llyfr yn cynnwys geirfa o ystyr ac ynganiad bras yr iaith.
Gwreiddiau'r stori
Mae'r stori wedi'i seilio ar ddigwyddiad go iawn a ddigwyddodd ym 1941 ger Eirisgeidh [4] pan fu i'r SS Politician cael ei dirio gyda chargo yn cynnwys 28,000 o gasys o wisgi brag. Mae ffeiliau swyddogol a ryddhawyd gan yr Archifa Genedlaethol yn dangos ei fod hefyd yn cario swm mawr o arian parod. At ei gilydd, roedd bron i 290,000 o bapurau deg swllt, a fyddai’n gyfwerth â sawl miliwn o bunnoedd yn arian heddiw. Ni ddaethpwyd o hyd i'r cyfan wedi'r llongddrylliad.[5]
Addasiadau
Perfformiwyd addasiad theatr o'r nofel, wedi'i drwyddedu gan Gymdeithas yr Awduron (rheolwyr ystâd lenyddol Compton Mackenzie) ac a ysgrifennwyd gan Paul Godfrey, gyntaf fel "sioe bar" yn Theatr Perth ar ddiwedd yr 1980au. Mae gan yr addasiad hwn, a gyflwynwyd yn null darllediad radio o'r 1940au, bedwar actor BBC Radio Rep a rheolwr stiwdio yn creu'r holl leoliadau, cymeriadau ac effeithiau sain fel y byddent wedi'i wneud mewn darllediad radio byw. Cynhyrchwyd y fersiwn hon hefyd gan Mull Theatre yn niwedd y 1990au, dechrau'r 2000au ac yn 2014, gan fynd ar daith i theatrau ledled yr Alban.
Perfformiwyd fersiwn sioe gerdd o'r nofel, o'r enw Whisky Galore - a musical!, Yn Theatr Gŵyl Pitlochry, yr Alban yn 2009 a 2011. Addaswyd y llyfr gan Shona McKee McNeil a chyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Ian Hammond Brown. Cynhyrchwyd addasiad Gaeleg o’r nofel ar gyfer y llwyfan gan Iain Finlay MacLeod ar gyfer cyd-gynhyrchiad Theatr Genedlaethol yr Alban, Robhanis ac A Play, A Pie & A Pint yn Òran Mór o’r enw Uisge-Beatha Gu Leòr yn 2015.[6]
Cyfeiriadau